Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Chwe phenill sylfaenedig ar Phil iii

I Wm Humphreys, Gof, Bala Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

I Gantores

CHWE' PHENILL SYLFAENEDIG AR PHIL. III

O! ryfedd ryfeddod fod nefoedd a'i bri,
I'w chael i bechadur mor aflan a mi;
Ac os oes ystormydd a chroesau i ddod,
'Rhoi mawl i'w ogoniant byth mwy fydd fy nod.

Nid cyfoeth, anrhydedd, a moetha y byd.
'Nawr ydyw gwrthddrychau sy'n denu fy mryd,
Na, mae'm pethau penaf o'r blaen wedi bod,
Yn dom ac yn golled yn ymyl fy nod.

Ar hwn yn sefydlog mae'm golwg bob awr,
A thra yn ei wyddfod mae'r holl ddaear fawr;
A'i rhwysg a'i gogoniant yn cilio tan gudd
Fel bydoedd is-raddol yn ngwydd cawr y dydd.

O! nod mor hardd yw galwedigaeth fy Nuw,
Ond cyraedd hwn sy'n gamp uchelaf ei rhyw;
Er hyny d'wed gobaith, a chariad, a ffydd,
Y gwnaf drwy nerth gras ei gyraedd rhyw ddydd.

Mae'n wir fod gelynion o'm hamgylch yn llu,
Yn ymlid fy enaid a chroesau bob tu;
Er hyny mi deithiaf yn mlaen yn ddigoll,
Gan hyf orfoleddu ynghanol yr oll.

Mi welaf fod angau yn sefyll gerllaw,
Ond bellach o'm hanfodd diflanodd pob braw;
A chaf nad yw weithian ond swyddog gan Dduw,
A'm dwg at fy ngwobr i'r nefoedd i fyw.


Nodiadau

golygu