Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Cwyn Coll
← Udgorn y Jiwbili | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
→ |
CWYN GOLL
Am y diweddar Mr. Thomas Evans (T. ap Ieuan), Trawsfynydd.
TRAWSFYNYDD anwylaf! pa beth yw y cri,
A glywaf yn adsain trwy'th fryniau hoff di?
Paham y mae tristwch yn llanw pob lle,
O'r dwyrain, gorllewin, y gogledd a'r de;
Paham yr wyt heddyw yn gwisgo dy ddu,—
Pa fodd y'th golledwyd fy anwyl wlad gu?
A alwyd dy feibion gan udgorn y gad,
I ryfel i ymladd dros ryddid eu gwlad?
Ai newyn ofnadwy sy'n dyfod gerllaw,
Gan daflu'th drigolion i ddychryn a braw!
Neu ydyw'r awyrgylch mor llwythog gan haint,
Nas gall y darfelydd ddesgrifio ei faint?
Na, na! fe adweiniodd y dewrion y cledd,
A newyn sy'n gorwedd yn fud yn ei fedd!
Mae natur yn gwenu,—yr awel mor glir,—
Chwareua yn nwyfus hyd wyneb y tir.
Nid rhyfel a newyn na haint sydd yn awr,
Yn esgor ar drallod pruddglwyfus y llawr;
Er hyny 'th drigolion sy'n athrist eu gwedd
Am fod T. ap Ieuan yn awr yn ei fedd!
Teyrnasai cyffro pan y clywyd hyn,
A phryder gerfiwyd ar bob grudd trwy'r wlad.
Nid ydyw iaith yn ddigon cref i ddweyd
Yn llawn pa faint a fu y golled hon.
Ond tystio wna yr ocheneidiau prudd
Esgynant fry mai anwyl ydoedd ef
Gan ei gyfeillion. Heddyw gwelir gwlad
Yn wylo dagrau hiraeth ar ei ol :
Mae'r dagrau welir ar y gruddiau llwyd,
Yn dystion gwir o'r cydymdeimlad sydd
A'r teulu yn eu trallod ar ol un
Anwylid ganddynt fel eu hanwyl dad.
Desgrifio colli tad, rhy anhawdd yw:
Oud teimlad ddywed i ni beth yw hyn.
Ei golli ef, y cain awenydd hoff;
Ow eiriau trist! 'Ap Ieuan yn ei fedd!'
Trawsfynydd hen, rhyw ddiwrnod tywyll du,
I ti oedd hwnw pan y collaist ef,
Pa ryfedd fod y Llan mewn galar dwys.
A'r Ysgol Sul yn wylo ar ei ol.
Ei lais ni chlywir mwy,—mor chwith yw gwel'd
Ei sedd yn wâg yn Eglwys hen y Plwyf.
Nid oedd un man yn nghreadigaeth Ior
Mor gysegredig yn ei olwg ef
A'r fangre dawel hon lle bu trwy 'i oes
Yn ffyddlon gydag achos Duw a'i waith.
Mor addfwyn y siaradai ar ei rhan,
Ac iddi bu yn amddiffynwr dewr,
Ac fel y dderwen gref, ni phlygai ef,—
Os collwyd gem o goron brydferth hon,
Mor felus ini ydyw cofio hyn,
Fod hwnw'n berl yn nghoron Iesu'n awr.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I hawlio coffadwriaeth;
Y beirdd a ddywed, 'Rhoddodd faeth
I fyd mewn pur farddoniaeth;'
A melus ydyw cofio am
Ei odlau swynol weithian;
Ceridwen, collaist fab dinam,
Pan gollaist T. ap Ieuan.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I haeddu parch mor drylw'r,
Fe dd'wed chwarelwyr er eu haeth
Collasom ein cynghorwr;
Ei ail am ddadleu ar ein rhan
Ni welir mwy yn unman,
Ond gorwedd mae ef ger y Llan,
Yr anwyl T. ap Ieuan.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth?
Ateba y plwyfolion
Collasom un o uchel chwaeth,—
Un doeth ei ymadroddion;
Pan ddelai rhyw awelon croes
I chwythu ar yr egwan,
Esmwythid pob rhyw gur a loes,
Os gallai T. ap Ieuan.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I anfarwoli 'i enw,
Yr ateb ddaw fel hedol saeth
I ddweyd o blith y meirw,
Mai enwog fu am nyddu pill,
A'i gerfio ar y lech lan;
Ac o mor swynol yw pob sill
O eiddo T. ap Ieuan.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I fod yn ddyn mor hynod,
Cewch ateb yn y rhain a ddaeth
I'w ddilyn at y beddrod.
Yr Eglwys fel rhyw weddw brudd,
Sisialai wrthi 'i hunan,
'Fy mhlentyn hoff, pwy i ni fydd
Mor bur a T. ap Ieuan?
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I beri y fath ddagrau?
Yr ateb yw mai angau ddaeth
I rwygo ein calonau;
Ond, aeth a'n cyfaill hoff i'w le,
At Iesu Grist ei hunan;
Trwy'n colled ni fe gadd y ne',
Yr anwyl T. ap Ieuan.
Nid marw wnaeth y cyfaill, huno mae
Mewn tawel fan, o gyraedd poen a gwae
Y byd. Mae ef yn gwybod erbyn hyn,
Pa beth yw newid byd a chroesi'r glyn
I'r ochr draw i'r llen, lle nad oes cur
Na thrallod i gymylu'r gwynfyd pur.
Ha ddaear, na falchia, 'does ond rhan
O hono 'n llechu ynot ger y Llan;
Mae'r enaid yn Mharadwys, gwlad yr hedd,
Yn canu mawl; y corff sydd yn y bedd!
Mor drist yw meddwl na chawn weled mwy,
Ei ddelw hardd yn Eglwys hen y plwy',
Na chlywed ei soniarus lais mewn cân
Yn ysbrydoli'r dorf yn fawr a mân.
Nid yma'n unig y danghosai e',
Ei hroffes hardd, fel Cristion yn mhob lle:
Yr unrhyw a fu ef o hyd, trwy'i oes,—
Yn filwr pur i grefydd Crist a'i groes.
Er fod ei gorff yn fud, mae ef yn fyw
Yn siarad gyda ni. Mor amlwg yw
Ein Tap Ieuan yn ei odlau cun,—
Mae yno'n fyw 'r un fath ag ef ei hun,
Yn dangos ei gymeriad gloew glân,
Fel un yn gwisgo lifrai 'r Wynfa lân
Chwarelwyr, meib Ffestiniog heddyw sydd,
Fel plant amddifad ar ei ol,—— mor brudd
'R edrychant hwy wrth wel'd mai gwag yw'r fan
Lle gynt y gwelwyd ef yn gwneyd ei ran,
Fel gweithiwr gonest, am flynyddau maith.
Bu'n addurn i'w gyd—ddynion yn y gwaith,
Ac os anghydfod ddeuai rhwng rhyw rai,
Mor dyner y danghosai ef eu bai,
Fel pan 'redychant ar ei siriol wedd,
A gwrando ar ei lais, teyrnasai hedd!
Fel cyfaill nid oedd well o dan y nef,
Nac un yn haeddu mwy o barch nac ef.
Pan byddai 'n dod o'i waith, edrychai'r plant
Ar ddelw T. ap Ieuan, fel ar sant;
Ac o fel carai yntau blant y Llan
Ac anwyl yn ei olwg oedd y fan,
Lle'r ymgynhullent hwy bob Sul yn nghyd,
I son am bethan uwch na phethau'r byd ;
A llawer o'i gynghorion doeth a fu,
Cyn hyn yn foddion i oleuo llu
O blant sydd heddyw yn golofnau byw,
Yn dilyn ol ei droed hyd lwybrau Duw;
Ei wersi fel amryliw flodau mân
Sy'n britho allor serch yn bur a glân;
Trysorir hwynt fel gemau nefol ryw,
Gan lawer mab a merch, sydd hedyw'n byw
Yn mhell o'r fan, lle gynt y dysgwyd hwy
I ofni Duw yn Ysgol Sul y Plwy'.
Bydd enw Glan y Wern, ei gartref clyd,
Yn llawn o swyn ar gof y wlad o hyd
Fel mangre gysegredig.—O mor hardd
Yw'r bwthyn hwn, hen gartref hoff y bardd;
Fe erys hwn fel yn y dyddiau fu,
Ond rhwng ei furiau heddyw, galar du
Deyrnasai dros y fan, Ha gwag yw'r sedd
Lle bu; Ow eiriau trist, mae yn ei fedd!
Ond sychwch chwi eich dagrau deulu mad,
Mae'r oll er gwell yn nwyfol drefn y Tad.
O boed i Dduw eich arwain ato ef,—
Cewch eto gwrdd wrth orseddfainc y nef.
Nid oes angen colofn arno,
Y mae hono yn ei waith;
Er's blynyddau wedi'i gerfio
Yn llenyddiaeth bur ein hiaith,—
A thra treigla dyfroedd gloewon
Prysor, trwy y dawel fro;
Bydd ei enw gan lenorion
Byth yn fyw ar lech y co'.
Gorphwys, gorphwys, gyfaill anwyl,
Boed dy hun yn llawn o hedd ;
Gristion dysglaer, fe fydd engyl
Nef yn gwylio man dy fedd,
Hyd nes treigla oesau'r cread,
Pan ddaw amser byd i ben;
Yna do'i o'r bedd, ar alwad
Duw heb liw 'r ddaearol lẹn,
Pan gadawa lwch Trawsfynydd,
Bydd ei wisg yn hardd ei gwedd;
Pan yn myned mewn llawenydd
Atysainti wlad yr hedd.
Yno bydd mewn anfarwoldeb,
Yn molianu Duw a'r Oen,
Gyda'r Iesu i dragwyddoldeb,—
Byth i deimlo cur na phoen.
Y BALA:
ARGRAFFWYD GAN DAVIES AC EVANS.