Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Goresgyniad Gwlad Canaan gan Josua

Englyn i Ivy John Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Udgorn y Jiwbili

GORESGYNIAD GWLAD CANAAN GAN JOSUA

AR ddyffryn Moab gynt y safai gwr
Ddewisodd Duw i'w blant yn gadarn dwr
Am ddeugain mlynedd trwy'r anialwch prudd
Y teithiodd gyda hwy bob nos a dydd.
Arweinydd oedd yn llawn o ysbryd byw—
Arweinydd anfonedig gan ei Dduw :
'Roedd dewrder yn gerfiedig ar ei rudd,
A'i fynwes gref oedd lawn o ddwyfol ffydd,—
Yn ngoleu hwn rhag—welai wlad oedd well,
Fel seren ddisglaer yn y gorwel pell;
Rhag—welai hefyd trwy y niwloedd du
Gymylau anhawsderau draw yn llu;
Ond trwy yr oll canfyddai wyneb Duw,
A chlywodd lais o'r nef yn sibrwd, 'Clyw,
'Josua, ymwrola, cofia di
Fod Arglwydd Dduw y Lluoedd gyda thi.'


Gerllaw yr hen Iorddonen ddofn
Gwersyllai byddin gref,
A'i chedyrn syllai yn ddi-ofn
I fyny tua'r nef;
Dychmygent weled yno un
Fu'n ffyddlon ar ei hynt
Yn crwydro trwy anialwch blin
Yn llywydd arnynt gynt.

Am Moses, wylo'n chwerw wnaeth,
Y rhai'n fel gweddw brudd,
Yn wylo am y plentyn aeth
Fry, fry i wlad y dydd;
Ond trwy eu dagrau gwelant draw
Eu llywydd hoff a'u llyw
Yn seinio cân heb ofn na braw
Wrth orseddfainc eu Duw.

Gadawodd Moses un o'i ol―
Un mwy nag ef ei hun—

I'w harwain hwy i'r hyfryd wlad
Oedd hardd a theg ei llun;
Josua, gyda hwy i'r gad,
Gychwynodd ar ei hynt
I'r wlad addawyd gan eu Tad
I'w tadau oesau gynt.

'Roedd dyfroedd yr Iorddonen gref
Yn ddiluw hyd y wlad,
Tra'r lanau hon y clywid llef
Josua filwr mâd —
Yn anfon yr offeiriaid trwy
Y dyfroedd gyda'r arch,
Yr hon a gariwyd ganddynt hwy
A chysegredig barch.

Y dyfroedd safant—gwylient hon—
Arhosent ar eu taith,
Llonyddu wnaeth y nwyfus don
Wrth wel'd y rhyfedd waith;
Cyd—rhwng y dyfrllyd furiau hyn
Plant Israel, law yn llaw,
Groesasant yr Iorddonen syn
Trwy wyrth, i'r ochr draw.

'Rol iddynt gyrhaedd cyrau'r wlad,
Y dyfroedd oerion llaith
Gusanent ryfedd ol y traed
Wrth fyned ar eu taith;
Y genedl gadwent wyl y Pasg,
Bwytaent y ffrwythau îr
Waharddwyd gynt cyn iddynt ddod
I'r cysegredig dir.


Ymgodai tyrau mirain Jericho
Fel creigiau cedyrn i addurno 'r fro,
Tra 'n syllu ar y ceinwych furiau hyn
Canfyddai Josua dywysog gwyn
Yn dod, a chleddyf noethlwm yn ei law,
Fel milwr dewr heb wybod beth oedd braw,

Pan glywodd Josua y genad ddaeth
O'r nef, ymgrymu 'n wylaidd iddi wnaeth;
Cyn hir cyfododd ef, tra gwyliai 'r llu
Ei ysgogiadau rhyfedd ar bob tu.
Ond mae yn galw arnynt hwy yn awr—
Yn mlaen, yn mlaen, cychwynai'r fyddin fawr;
Draw, draw canfyddent gedyrn furiau'r dref
Oedd heddyw tan ofnadwy wg y nef:
Amgylchynasant hon, a'r seithfed dydd
Udganai 'r udgyrn floedd—a'u hadsain rydd
Rhyw arswyd yn nghalonau 'r gelyn oedd
Yn clywed swn yr erch ofnadwy floedd
Fel taran yn dispedain, O!'r fath fraw,—
Eu hecco 'n rhwygo'r muriau ar bob llaw,
Y cedyrn furiau gynt yn sarn tan draed,
A'u gwylwyr yno 'n gorwedd yn eu gwaed.

Er hyn fe welid mawr drugaredd Duw
Yn cadw teulu Rahab oll yn fyw;
I Jericho, arswydus fu y dydd
Pan wnaed ei muriau hardd yn lludw prudd.

Draw yn y pellder gwelid dinas Ai
Fel pe yn gwylio gwaith y cedyrn rai,—
Canfyddent hwy yn dod yn nes o hyd,
A galwodd hithau 'i milwyr oll yn nghyd
Yn barod i wrthsefyll gwyr y gad
Oedd erbyn hyn yn ddychryn i'r holl wlad;
Ond dewrion feibion Ai trwy nerth y cledd
Orchfygodd; hwythau 'n ol â gwelw wedd
Droiasant at eu llywydd hoff a'u llyw,'
Yr hwn a gaed wrth Arch Cyfamod Duw.'
Yn wylaidd wrthynt y dywedai ef,
Mae yma fradwr hyf tan wg y nef,
O rengau'r fyddin Achan ato ddaeth,
A dagrau ar ei rudd amlygu wnaeth
Y brad, trwy'r hwn plant Israel deimlant rym
Ei anufudd-dod ef, ac angau llym
Fu tynghed teulu Achan; claddwyd hwy
Mewn bedd di-nod—eu llais ni chlywyd mwy;

Anghofiwyd hwy-y prudd annedwydd rai-
Yn muddugoliaeth lwyr hen ddinas Ai.


Arhosodd gwylwyr Israel
Yn ninas Ai i wylio,
Tra rhan o'r fyddin i Sichem
A aethant i weddio-
Am gymorth Duw i'w cario trwy
Y brwydrau erchyll welid
Yn syllu eto arnynt hwy
Hoff blant yr 'hen addewid.'

Pan ddaeth Josua yn ei ol
I'r gwersyll gyda'i filwyr,
Canfyddai yno fintai fach
O flin luddedig deithwyr:
'Roedd edrych ar eu gwelw rudd,
A'u carpiog wisg yn tystio
Yn amlwg beth oedd hanes prudd
Y fintai fu yn teithio.

Ychydig wyddai ef pryd hyn
Eu bod hwy yn ei dwyllo;
I'w cadw 'n fyw cymerodd lw
Nas gallai ei anghofio.
Ond am y twyll fe'u cospwyd hwy,
Fe'u gwnaed bob un yn weision
I gario dwfr-i dori coed-
Y rhoed twyllwyr Gibeon.


'Roedd enw'r dewr Josua trwy y wlad
Yn arswyd fel arweinydd mawr y gad;
Edrychid arno ef a'i gadarn lu
Fel anorchfygol fyddin ar bob tu ;
Brenhinoedd welid yn ymgasglu 'o hyd
Yn galw eu byddinoedd dewr yn nghyd.
Yn mrwydr Beth-horon eu gwyr a gaed
Yn disgyn yn gawodau wrth eu traed;
Nis gallent ddianc, na, 'roedd haul y dydd
Uwchben Gibeon, heddyw'n welw brudd;

Ymguddio wnaeth—arhosodd ar ei daith—
Nis gallai edrych ar yr erchyll waith.
Y lleuad dlos—yr hoff genhades wen—
Brenhines wiw y nos―yn gwyro 'i phen
O'r golwg. Ond yn mlaen y milwyr hyf—
Ymruthrent trwy y nos fel corwynt cryf,
Gan hyrddio y trueiniaid ar eu hynt
Fel hyrddir dail yr Hydref gan y gwynt,—
Fel niwl o wydd yr haul ar foreu cun,
Diflanu wnaethant hwy o un i un.

Ar ol y frwydr fyth—gofiadwy hon,
Pump o frenhinoedd rhwysgfawr ddaeth gerbron
Josua, 'r hwn a alwodd ar ei wyr
I'w mathru tan eu traed i'w difa 'n llwyr ;
Saith o frenhinoedd eraill wnaed yn sarn,
Er mwyn cyfiawnder Duw â chleddyf barn
Dinystriwyd eu dinasoedd,—ofn a braw
Deyrnasai ogylch amgylch ar bob llaw.
O! ryfedd drefn !! arswydol erchyll haint
Dialedd Duw, pwy all ddesgrifio 'i faint?
Rhy wan yw iaith, 'does neb ond Duw ei hun
All ddweyd mor fawr yw anufudd-dod dyn.

Hyd lanau Galilea'r fyddin fawr
Gaed yn ddiri fel tywod man y llawr
Wrth ddyfroedd Merom, yr aneirif lu
Wasgarwyd gan blant Israel ar bob tu,
O lethrau hardd Lebanon, ar un llaw,
Anrheithiwyd hwy hyd gyrau Sidon draw.
Gadawyd y dinasoedd hardd eu gwedd
Yn brudd golofnau unig ar eu bedd.
Ond Hazor a ddinystriwyd, nid oedd mwy
Ei muriau wnaed yn gandryll—llosgwyd hwy
Yn lludw, a'i phinaclau yno gaed
Yn disgyn mewn dinodedd yn y gwaed.
Yn llwyr gwasgarwyd hwy, nis gallent fyw
O flaen rhyferthwy mawr cyfiawnder Duw.


Ar ol y brwydrau erch, Josua ddaeth,
A galwodd ei benaethiaid—rhanu wnaeth
Y wlad orchfygwyd ganddynt hwy mor llwyr.
Plant Israel, yr anorchfygol wyr,
Fe roddodd iddynt trwy orchymyn Duw
Eu hetifeddiaeth lawn o ddwyfol ryw,
A heddwch a deyrnasai trwy y wlad;
Ufudd-dod llawn a roed i'r nefol Dad.


Rhyw gysgod cywir o un mwy
Oedd Josua'r arweinydd,
Arweiniodd ef y genedl trwy
Rhyw laws o ystormydd
I'r Ganaan hyfryd teg ei gwawr,
Y Ganaan a addawyd
I'r tadau gynt, eu "Llywydd mawr,"
'N eu plith yn amlwg welwyd.

Yn lle y cysgod sylwedd gaed
I fyd o bechaduriaid,
Yr hwn oedd fwy na'r Aberth wnaed
Yn mrwydrau'r Israeliaid.
Agorwyd ffordd gan Grist ei hun
I'r Ganaan wen urddasol,
Fe rodd i wael golledig ddyn
Y deyrnas fawr dragwyddol.


Nodiadau

golygu