Chydig ar Gof a Chadw/Er Cof am Syr O. M. Edwards

Shon Ifan, Maentwrog Chydig ar Gof a Chadw

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)

Penri

Er Cof am
SYR O. M. EDWARDS, M.A.

O 'RWY'N fawr iawn fy hiraeth
O'i Neuadd Wen fy nawdd aeth,
Ond er mewn braw'n wylaw, nid
Unig wyf yn y gofid.
Ingol hyd lwch yw 'Ngwlad dlôs
Am oreugwr mor agos
O! ddydd o fawr ddioddef
Oedd y dydd y cleddid ef.
Nid oedd Gwalia Walia wen
Gwalia ddu gladdai Owen,
Yn fy nghur a fy ing hallt
Tawaf i'm henaid dywallt,
Iaith ddi air wrth ei Weryd,—
Gore y Gerdd—dagrau'i gyd,
Bu'n syn gan Dde a Gwynedd
R'oi Owen fawr yn ei fedd—
Y cyfoed cu o fyd cerdd—
Yr awengu Weringerdd.
Cywydded y Wig heddyw
Odlau mewn dail am nad yw,
Minnau ddistaw wrandawaf
Ar dirion wir Adar Naf,
Am Owen yn arbennig—
Fe garai ef Gôr y Wig.
O! fy nhalaf anwylyd—
Mae ar gôf Cymru i gyd.
Ei chodi'n uwch dyna oedd
Llw Awen ei alluoedd.
Dwys-leddfwyd—ataliwyd tôn
Disgwyliad ei Hysgolion.
Anwyliaid ei Hen Wylia
Wylant o'i ol yn Blant da.
Pan yn fachgen talentog
A'i lanwedd law yn ddi—log
Carodd ei Wers, concrodd hi
Heb arwyddion gwobr iddi.

Ac ar hyd ei weithgar oes—
Glanaf fuddugol einioes,
Eofn fu—ni fynnai fod
Llwydni ar sill o adnod―
I'w hysgol hi'n mynwes gwlad
Rh'odd gywiredd ei gariad,
O! mor falch yw Cymru Fydd
O'i dêr bryd ar barwydydd,
Boreddysg bur i haddef
Gwerin yw ei Goron ef,
Swyn hanes a'i henynnai,—
Gofod ei gôf o hyd g'ai
Llafar Llên, a phob llyfr llwyd,―
Hen wrolion yr aelwyd
Am ei dalent mae dolef,—
Llaith yw ei holl weithiau ef—
Ddoniol lenor[1] Dwy Fordaith,—
Dau lyfr del o hyfryd iaith
O'u cyfaredd caf hiraeth,
O.M. y ffrynd mwyaf ffraeth,
Man i'm hawen i mwyach
Mi wiriaf fydd Cymru fach,
Diferu eu clodforedd
I'w bin aur wna Bannau hedd,
Trwy'r Glynnoedd—trwy Gymoedd gant
Odlau dyled, a eiliant,
Fe wna cof o'i wenau cu
Swn hiraeth yn soniarus.
Mawr yw hawl fy mro'i wylaw
Deigryn yw y Llyn gerllaw,
Daw o eigion Estronaeg
Emau i rudd y Gymraeg.
Am ei berffaith waith a'i wên
Sieryd ochus Rhydychen
Er hualau Arholiad
Arddelai hen Feirdd ei wlad,
Pery blas Cymdeithas deg
Eilun calon y Coleg,
O fywyd gwyn, cyfyd gwedd

Athrofa hiraeth rhyfedd,—
Er ei thirf wawr a'i thorf fyw,
Bedd-adail hebddo ydyw.

Llan-uwch-llyn iach a llonydd
Fwynhaodd ef yn ei ddydd,
Hynaws rym i'w einioes r'odd
Yr awyr lle chwareuodd,
Mwy nid oes man dewisol
Heb hiraeth, hiraeth o'i ol.

Trowch i fewn—tariwch funyd
I weled glân aelwyd glyd—
Athen deg gobeithion dyn
Cronglwyd y Gainc a'r Englyn.
A'i thonyddiaeth yn addef
Ei rymus Lyfr misol ef.
Methu wna fy mwthyn heb
Y Gol. aur a'i Eglureb.
Honnai fy ngherdd a fy nghais
Am ei ddalen meddyliais.
Cymro gore Llyfrgelloedd
Ac eirian wawl Gwerin oedd,
Fe wyllâi pob 'Stafell heb
Wawr a thân ei ffraethineb.
Hiraetha'r iaith ar ei ol
A'i glân addysg lenyddol.


Nodiadau

golygu
  1. Ei deithiau trwy Llydaw a'r Eidal.