Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pregeth V
← Pregeth IV | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pregeth VI → |
PREGETH V.
ETO Y MAE LLE.
"A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynaist; ac eto y mae lle."—Luc xiv. 22.
Y MAE yr Arglwydd Iesu, fel y cawn hanes yn nechreu y benod yma, wedi myned i dŷ Pharisead i fwyta bara. Yr oedd dyn yn glaf o'r dropsi yno, ac yr oeddynt yn gwylio yr Iesu a iachäai Efe ef ar y dydd Sabbath: ond iachau y dyn ddarfu yr Arglwydd, ac ateb yn bur fyr iddynt hwythau, pa un oedd yn iawn gwneuthur da ai drwg ar y dydd Sabbath.
Dywed wrthynt hefyd am beidio eistedd yn y lle uchaf, ac astudio pa fodd i ddyrchafu eu hunain; mai nid dyna y ffordd iddynt gyrhaedd hyny.
Hefyd pan wnelont wledd, am beidio a gwahodd y cyfoethogion, am fod modd ganddynt hwy i dalu yn ol; ond am iddynt wahodd y tlodion. Yr oedd yno ryw ddyn nad oedd yn perchen llawer o'r byd, mae'n debyg, ac yn meddwl wrth glywed hyn y byddai yn bur hapus pe oyddai wedi dyfod fel yna, ac atebodd yn bur hyf, "Gwyn fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw "—y byddai cyfle i bawb i gael eu lle a'u rhan. Ond y mae yr Arglwydd Iesu yn dangos mai nid felly y mae dynolryw yn gyffredin yn edrych. Gallech feddwl gan fod gwledd wedi ei darpar, fod yr efengyl yn gwahodd pawb iddi, y buasai pawb yn rhedeg at yr Arglwydd Iesu i'w derbyn. Ond a fynet ti ddyn wybod pa sut y mae? "Rhyw ŵr a wnaeth swpper mawr,"—wel yr oeddynt yn dyfod am y cyntafyr oedd y tŷ yn fawr, ac nid oedd eisieu dim ond eu cael hwy i'r wledd. "Ond hwy a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi." Esgusodi ydyw dyn yn ceisio taflu y bai oddiar ei ysgwyddau ei hunan ar ryw rai eraill,—peth ag y mae y natur ddynol yn bur chwanog iddo. Ond y mae brethyn eu hesgusodion hwy yn bur deneu—gwelir drwyddo yn bur hawdd. Yr oedd un yn dyweyd ei fod wedi prynu tyddyn a bod arno eisieu myn'd i'w weled. Pe buasai y cyfryw dyddyn ar werth y dydd hwnw, buasai ryw esgus iddo; ond buasai y wledd yn fwy o werth iddo pe hyny fuasai yn bod; ond yr oedd y dyn wedi ei weled, oblegyd nid oedd wedi ei brynu, mae'n debyg, heb roddi rhyw olwg arno; ond y gwir oedd fod y tyddyn yn gymaint yn ei olwg fel nad allai ddyfod—esgus gwael iawn.
Yr oedd y llall wedi prynu pum' iau o ychain, a rhaid myned i'w profi, meddai y dyn. Pe buasai y ffair arnynt y dydd hwnw, buasai ryw fath o esgus iddo; ond balch o'i fargen, a diystyr o'r wledd, oedd efe. A'r trydydd yn dyweyd ei fod wedi priodi gwraig, ac am hyny nas gallasai ef ddyfod. Nid oedd hwn yr un olwg a llawer. Y mae llawer yn dewis peidio dyfod at grefydd nes priodi, i gael maes dipyn helaethach; ond yr oedd bryd hwn ar ei gydmares, a'i esgus yn wael iawn: onid allasant ddyfod eu dau? Yr oeddynt yn bur gynes ac heb dynu yn groes ond ychydig iawn eto; paham na allasai y wraig ddyfod? Y maent yn dyweyd fod mwy o'r merched yn dduwiol nag o'r gwŷr—esgus gwael iawn. Ond a feddyliech chwi na byddai gŵr y tŷ wedi digio? Yr oedd wedi teimlo, gan y rhoddodd orchymyn i'r gwas i fyned i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a gwahodd pawb—y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion; ac yna y mae y gwas yn dyfod yn ol, ac yn dywedyd," Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynaist; ac eto y mae lle." Y mae y tŷ yn fawr, a'r wledd yn helaeth; dos allan, bellach i'r prif—ffyrdd a'r caeau at y cenhedloedd, gwahodd hwy i ddyfod i mewn fel y llanwer fy nhŷ. Wel, bellach, nid ä gwaed y groes yn ofer.
"Ni chollwyd gwaed y groes,
Erioed am ddim i'r llawr.'
Yr oedd gŵr y tŷ wedi digio. Y mae Duw yn digio wrth bob drwg—ac yn benaf wrth y drwg sydd yn gwrthod y daioni sydd yn y Cyfryngwr—esgeuluso bod yn gadwedig. Y mae yma le i bechadur droi ei wyneb; "eto y mae lle.'
Yn un peth, y mae lle yn ngalwedigaeth yr efengyl i nibob yr un. "Arnoch chwi wŷr yr wyf fi yn galw, ac at feibion dynion y mae fy llais." Y mae galwedigaeth yr efengyl at bechadur fel y cyfryw. "O deuwch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno.' "Trowch eich wynebau ataf fi holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber." Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch genyf; canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn." "Deuwch ataf fi bawb sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythaf arnoch." Y mae galwad yr efengyl nid yn dy alw i'r farn i'th gospi, ond i dderbyn trugaredd, i'th "gyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef;" yn nhrefn yr efengyl, i dderbyn "maddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a sancteiddiwyd." Ai tybed y byddai yn fai i ni dynu dipyn o gysur yma? Y mae efe yn dy alw di. Nis gwn pa mor halogedig yr wyt wedi bod; cymer gysur y mae Efe yn dy alw di." Y mae y diafol am dy rwystro, a chwantau yn sefyll ar y ffordd, ond cymer galon, y mae Efe yn dy alw di; y mae yma le i bechadur fel Ꭹ mae.
Y mae yma le hefyd yn nhrugaredd Duw. Y mae "trugaredd yr Arglwydd ar ei holl weithredoedd;" y mae yn mhob man wedi ei thaenu dros y cwbl, a gwelwch hi bob amser. Y mae gan Dduw galon fawr, a'i llon'd o faddeuant. Y mae ei drugaredd yn nhrefn yr efengyl yn dyfod o werth mawr. Ymgeledda di yn y fath fodd, ag y byddi yn well i dragwyddoldeb o honi. Y mae trugaredd Duw yn ddiderfyn; y mae yn hoffi tosturio, ac yn ymofyn am le i drugarhau. Pwy a ŵyr pa beth a dal trugaredd Duw yn wyneb angen pechadur?
Nis gallaf fostio fy henafiaid; ond byddaf yn falch o'm Creawdwr Hollalluog—Hollwybodol. Pa faint a dal trugaredd Creawdwr i'w greadur? nis gwyr neb ond y Creawdwr ei hunan. Yn erbyn y Duw mawr yr wyf wedi pechu, ac y mae ganddo drugaredd yn ateb i'w fawredd. Y maent yn dyweyd mai dynion bach iawn ydyw y rhai anhawddaf ganddynt faddeu o bawb: ond am y dyn sydd a rhywbeth yn fawr ynddo, y mae maddeu yn hwnw os caiff ymostyngiad. Felly am y Duw mawr, y mae yn ymhyfrydu mewu maddeu i bechadur mawr.
Y mae yma le hefyd yn arfaeth Duw. Gyda pharch ac ymostyngiad sanctaidd y dylem son am hon; ond byddaf yn meddwl nad ydyw wedi ei heilio mor glos nad oes yma le i bechadur droi ei wyneb; o herwydd yn nhragwyddoldeb cyn bod y ddaear, penderfynodd Duw faddeu i bob pechadur edifeiriol, a chyfiawnhau pwy bynag a gredo. Y mae yma ddrws wedi ei agor na ddichon neb ei gau, os na chauwch chwi ef yn eich erbyn eich hunain. Nid oes dim wedi ei benderfynu yn erbyn pechadur mawr yn nhragwyddoldeb pell, ond y mae yma barotoad tuag at dy dderbyn di: y mae yn dy alw, cymer gysur.
Y mae yma le i ni yn haeddianau mawr y Cyfryngwr. Iawn mawr ydyw ei Iawn Ef; y mae yn "offrwm i Dduw o arogl peraidd." Y mae
"Wedi talu anfeidrol Iawn,
Nes clirio llyfrau'r nef yn llawn;
Heb ofyn dim i ni,”
Y mae y drefn wedi gwneyd y diffyg o'n tu ni i fyny. Buasai y cwbl wedi darfod, buasai pawb yn dyweyd ei bod yn rhy ddiweddar, pe buasai treulio ar anfeidroldeb; ond nid oes dim darfod ar beth felly, ac ni welir haeddianau y Cyfryngwr yn myn'd yn llai byth. Dyna fel y gwelwn ni fod Duw yn gwneyd yn mhob peth. Lle y mae angen mawr, y mae rhyw helaethrwydd mawr ar ei gyfer. Yr oedd eisieu awyr lawer ar y byd; y mae Duw wedi rhoddi deugain milldir o drwch o amgylch y ddaear. Paham yr oedd eisieu cymaint? Yr oedd eisieu llawer o awyr i'w anadlu, ac i'w buro wedi ei anadlu. Y mae y môr yn fawr iawn byddwn i yn arfer meddwl ystalm ei fod yn ormod, y buasai yma le braf i gael gweirgloddiau. Y mae o yn llon'd ei wely bob amser ar wlyb a sych; buasai yn rhaid gwlawio rhyw fôr bach i gael digon hyd yn oed o leithder i'r hen ddaear yma. Y maent yn dyweyd am yr haul ei fod yn fawr iawn; yr oedd eisieu un mawr, ac i ddiwallu anghenion mawr y mae Duw wedi ei wneyd; y mae yn ffynnonell ddihysbydd o wres a goleuni, a bydd felly holl ddyddiau y ddaear. Dyna fel y mae Haul mawr y Cyfiawnder, y mae yn anfeidrol ac annherfynol yn gystal a thragwyddol; y mae yma helaethrwydd mawr yn ei Aberth, a gwiwdeb sydd allan o derfyn ei fesur a'i bwyso gan blant dynion. Y mae yma helaethrwydd hefyd heb i ddim fyned yn ofer. Y mae wedi darparu ar gyfer dy eisieu di. Y mae genym Greawdwr yn Iawn.
Hefyd y mae yma le i ni yn ngweddïau yr eglwys. Y mae y duwiolion yn gweddio dros eu cymydogion yn wastad. Y mae yma rai heb feddwl fawr iawn am grefydd; ond y mae eraill wedi dyrchafu gweddi drostynt. Dymuniad calon llawer hen fam yn Israel ydyw, gweled ei holl gymydogion yn dduwiol." "Y mae y briodasferch yn dywedyd, tyred." Nis gwn a roddwn ddim am grefydd neb na byddai rhywbeth ynddi yn gwahodd.
Hefyd y mae lle o fewn muriau eglwys Dduw. Y mae meddu crefydd yn beth mawr iawn, a Duw yn unig a ŵyr pa mor fawr. Y mae ei phroffesu hi yn beth go fawr. Nis gwn pa fodd y gallwch ei meddu heb ei phroffesu: y mae eisieu bod yn ddysgybl i'r Iesu—nid yn ddirgel rhag ofn yr Iuddewon. Pwy bynag fyddo cywilydd ganddo fi am geiriau; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddel yn ngogoniant ei Dad." Ymofyn am aelodaeth eglwysig. Mynydd Duw sydd fynydd cribog fel mynydd Basan, ac yn gofyn am ddigon o ymdrech i'w ddringo. Arafaidd iawn y daethum i at grefydd, ond teimlwn fod rhyw blwc rhyngof a hi nes daethum at y broffes. Daethum i deimlo bob yn dipyn nad oedd arnaf eisieu Crist heb ei bobl. Dyma borth y nefoedd; trwy hwn y mae myned. i'r eglwys orfoleddus fry.
Hefyd y mae digon o le i chwi yn y nefoedd. Y mae yr Arglwydd Iesu Grist yn dyweyd fod yn nhŷ ei Dad "lawer o drigfanau," a'i fod Ef yn myned i barotoi lle i'w bobl. Ac wrth feddwl am yr Arglwydd Iesu, teimlwn y gwna Efe bob peth yn iawn, o herwydd nid oedd Ef, ac nid ydyw, yn arfer gwneyd dim heb ei fod yn iawn. A sicr ydyw y bydd y lle i'r pwrpas uchaf: nis gwn a oes lle yn uffern i chwi; beth bynag ni bydd yno welcome home gan undyn, gan nad oes yno gariad at neb. Bydd holl ddihiriaid y byd wedi myned yno. Nid yw y lle wedi ei ddarparu i ddynion. Ond bydd welcome home i ti yn y nefoedd. Bydd Abraham, Isaac, a Jacob yno, ac y maent wedi llawenhau filoedd o weithiau wrth weled rhai yn dyfod adref. Bydd digon o le a chroesaw i ti yn y nefoedd. Nid dim byd ydyw myned i uffern a cholli y nefoedd hefyd. Y mae uffern yn ofnadwy o le i feddwl i un-dyn fyned yno.
Ni fedr y diafol fyned a thi i uffern heb dy gonsent ti dy hun; ac nid ydyw Duw chwaith am fyned a thi i'r nefoedd yn groes i'th ddymuniad. Yr oedd y rhai hyn wedi ymesgusodi; a gŵr y tŷ o'r herwydd wedi digio, teimlodd ac ni ddaeth ato ei hunan—y mae wedi digio er ys deunaw cant o flynyddoedd wrth y genhedlaeth hono: yr ydym yn disgwyl fod yr amser i drugarhau bron a dyfod. Bod yn ddifater am fod yn gadwedig ydyw y bai mawr. Gwyliwch esgeuluso, ond derbyniwch yr efengyl, onide bydd y Duw mawr wedi digio wrthych yn y fath fodd, na chymoda â chwi i dragwyddoldeb.[1]
Nodiadau
golygu- ↑ Ysgrifenwyd gan Mr. HUGH JONES, Dolgellau, wrth ei gwrandaw.