Cyfieithiadau o gerddi i'r Gymraeg/Highland Mary — Robert Burns - Fy Anwyl Fari — Robin Ddu Eryri

Cyfieithiadau o gerddi i'r Gymraeg Cyfieithiadau o gerddi i'r Gymraeg
Robert Burns
gan Robert Burns

Robert Burns
wedi'i gyfieithu gan Robert Parry (Robyn Ddu Eryri)
Scots Wha Hae—Robert Burns - Robert Bruce - I'w fyddin D L P


Highland Mary — Robert Burns

Ye banks, and braes, and streams around
The castle o' Montgomery,
Green be your woods, and fair your flowers,
Your waters never drumlie!
There Simmer first unfald her robes,
And there the langest tarry:
For there I took the last Fareweel
O' my sweet Highland Mary.

How sweetly bloom'd the gay, green birk,
How rich the hawthorn's blossom;
As underneath their fragrant shade,
I clasp'd her to my bosom!
The golden Hours, on angel wings,
Flew o'er me and my Dearie;
For dear to me as light and life
Was my sweet Highland Mary.

Wi' mony a vow, and lock'd embrace,
Our parting was fu' tender;
And pledging aft to meet again,
We tore oursels asunder:
But Oh! fell Death's untimely frost,
That nipt my Flower sae early!
Now green's the sod, and cauld's the clay,
That wraps my Highland Mary!

O pale, pale now, those rosy lips,
I aft hae kiss'd sae fondly!
And clos'd for ay the sparkling glance,
That dwalt on me sae kindly!
And mouldering now in silent dust,
That heart that lo'ed me dearly!
But still within my bosom's core
Shall live my Highland Mary.


Fy Anwyl Fari — Robin Ddu Eryri

Chwi fryniau glwys a choed o gylch
Hoff gastell glân Montgom'ri,
Yn hardd bo'ch gwawr, yn wyrdd bo'ch dail,
Mewn glendid yn rhagori;
Byth yno 'nghynta' gweler haf,
Ac yno'n ola'n gwenu,
Can's yno'r ymadewais i
A’m hanwyl, anwyl Fari.

Mor hardd oedd clôg y fedwen las,
A blodau'r drain mor wynion,
Pan dan eu cudd y gwasgwn i
F' angyles at fy nghalon!
Yr oriau'n bêr aent dros y bardd,
A'r un ag oedd e'n hoffi ;
Can's hoff i mi fel bywyd oedd
Fy anwyl, anwyl Fari.

Trwy lawer llw, a'n breichiau 'nghlo,
Bu dyner ein gwahaniad ;
Gan addunedu mynych gwrdd,
Torasom ein cofleidiad;
Ond O! rew angau deifio wnaeth
Fy rhosyn hardd--fy lili;
Gwyrdd yw'r dywarchen, oer yw'r clai,
Sy'n cloi fy anwyl Fari.

O! gwelw yw'r gwefusau pêr,
Mor swynol gawn gusanu ;
A chwedi caead arnynt byth
Mae'r llygaid oedd mor llon-gu;
Mae'n llwch a lludw'r galon lân
Mor dyner fu'n fy ngharu !
Ond yn fy nghof a'm serch caiff fyw
Fy anwyl, anwyl Fari.