Dyddanwch yr Aelwyd/Cyfieithiad o Anacreon

Dau bennill ar "Triban Morfudd" Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Caniad i Gariad

CYFIEITHIAD O ANACREON

[AWDL XIX. ]

GAN yfed, yf y ddaiar ddu,
A'i hyfed hithau'r coed y sy;
Y môr a yf awelau'r wawr,
A'r haul a yf y cefnfor mawr;
A'r lloer, i wella'i misol draul,
A yf drachefn oleuni'r haul.
Pob peth a yf: a pham ych chwi
Yn grwgnach os yr yfaf fi?
—PARCH. D. S. EVANS


Nodiadau

golygu