Gwaith Alun/Eisteddfod y Wyddgrug

Gŵyl Ddewi Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Rhywun


EISTEDDFOD Y WYDDGRUG.

AT MR. E. PARRY, CAERLLEON

Wyddgrug, Awst 16eg, 1823

Goroian! goroian! Mr. Parry anwyl. Bydd Callestr yn enwocaf o'r enwogion eto. Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr yn y Leeswood Arms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward Llwyd i gymeryd y gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd £5 at ddwyn y draul. Gosododd y mater o flaen yr uchel-reithwyr (grand jury) am y Sir, a thanysgrifìodd pob un o honynt bunt, gydag addaw ei noddi. Taflodd yr Uchel-sirydd ei deir-punt at y draul, gan addunedu, er mai Sais oedd, y byddai iddo noddi athrylith gwlad ei henafiaid hyd angeu. Dyma ddechreu yn iawn onide! Bellach, fy nghyfaill, ni raid i chwi wrido wrth son am eich sir gynhennid. Mae tân yn y gallestr, ac wedi ei tharaw o dde, hi a wna holl Gymru "yn brydferth goelcerth i gyd." Gosododd Callestr yr engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy gymeryd y peth yn orchwyl y sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi.

Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y cyfansoddiadau goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir pan y cyferfydd y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto. Dyna'r pryd y llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a'r gwobrau; a byddaf yn sicr o anfon rhai o'r hysbysiadau argraffedig yn gyntaf oll i fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy na'i weled yn ymgeisiwr llwyddianus.

Mi a glywais fod Mrs. Parry a'i mab yn iach galonnog.—Dyma i chwi ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a mesur cân ragorach y doniol Erfyl. Chwi a welwch wrthi mai amcan at annerch y "gwr ieuanc dieithr" ydyw, fel pe buaswn wyddfodol.

Henffych, amhrisiadwy drysor,
Blaenffrwyth y serchiadau mâd;
Ni fedd natur bleser rhagor
Na theimladau mam a thad.

Wrth olygu'th wyneb siriol,
Gaiff dieithr godi ei lef,
'Mhell uwchlaw syniadau bydol—
Erfyn it' fendithion Nef?

Nid am gyfoeth, clod, na glendid
Caiff fy nymuniadau fod;
Dylai deiliaid tragwyddolfyd
Gyrchu at amgenach nod.

Boed i'th rudd sy'n awr a'i gogwydd
At y bur dyneraidd fron,
Ddangos oedran diniweidrwydd,—
Gwisged bob lledneisrwydd llon.

Dy wefus sydd wrth ei chusanu
'N ail i rosyn teg ei liw,—
Boed i hon yn ieuanc ddysgu
Deisyf am fendithion Duw.

Na wna achos wylo defnyn
O'r llygaid 'nawr mewn cwsg sy'n cloi,
Ond i dlodi dyro ddeigryn
Os na feddi fwy i'w roi.

Dy ddwy law, sy'n awr mor dyner,
Na bo iddynt gynnyg cam;

Ond rho 'mhleth i ddweyd dy bader
Ac i ofyn bendith mam.

Na boed gwên dy wyneb tirion
Byth yn gymysg gyda thrais,
Ac na chaffo brad ddichellion
Le i lechu dan dy ais.

Na boed byth i'th draed ysgogi
Oddiar ffordd ddaionus Duw
Er ei chau â drain a drysni—
Llwybr i'r Baradwys yw.

Boed i'th riaint fyw i'th arwain
Gam a cham ar lwybrau gwir;
Na foed arnat ras yn angen
Tra yma yn yr anial dir.


Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda'r diolchgaiwch gwresocaf am eu benthyg. Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei ddeall na'r llallmynnwn gyfeirio eich sylw at y "Cywydd i law merch," ac ni chewch eich siomi. Mae beirniaid da wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf goelio hynny. Yn Rhuthyn y prynais i ef, am 1s. 6c. 'Digon o newid arno,' meddwch chwithau. Pe meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb ymhellach, a gofynwn am fenthyg Transactions of the Cymmrodorion, yn ol gyda'r dygiedydd. Yr ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu cyfieithu "Hanes y Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb â Lloegr."

Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,—yn wir mae gorfoledd am lwyddiant ein Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a ysgrifenais.

Nodiadau

golygu