Llewelyn Parri (nofel)/Pennod XIII

Pennod XII Llewelyn Parri (nofel)

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod XIV

PENNOD XIII.

TORODD y wawr. Yr oedd y gwynt wedi gostegu a'r gwlaw wedi peidio. Cyfododd Gwen o'i gwely, ac yr oedd i lawr bron gyn gynted a'r forwyn. Cymerodd damaid o fara ac ymenyn, gan brysuro i fyned allan mewn ymchwiliad am ei brawd.

Cerddodd yr eneth yn ol ac yn mlaen, i lawr ac i fyny, ar hyd a lled y y dref, am oriau; ond ni welai ni wrthddrych ei hymchwiliad yn un lle. Cyfarfyddodd â rhai o'i hen gwmpeini fwy nag unwaith, y rhai a edrychent arni â golwg gellweirus, ac a chwarddent yn eu llewis wrth ddyfalu rhyngddynt a'u gilydd beth oedd ei hamcan.

Gydag yspryd isel ac aelodau lluddedig, bu gorfod iddi ddychwelyd i dŷ Mr. Powel gyda'r nos, heb gael hyd i'w brawd. Ceryddodd ei gwarcheidwad hi am fod mor ffôl; ond ystyriai hi o hyd na wnaeth ddim mwy na 'i gwir ddyledswydd.

Bore dranoeth, amser boreufwyd, dywedodd Mr. Powel wrth Gwen,

"Sut yr ydych yn ymdeimlo heddyw, 'ngeneth i, ar ol eich lludded mawr trwy'r dydd ddoe?"

"Cystal a'r disgwyliad, diolch i chwi," atebai Gwen.

"Pe baech yn dod o hyd i Lewelyn, pa beth a wnaech wedyn?" Gofynai yntau drachefn. "Gwyddoch fy mod wedi dweyd na chai dywyllu drws y tŷ yma ond hyny."

"Ymddiried i Ragluniaeth—dyna gymaint sydd genyf i'w wneyd, os ydych chwi'n bwriadu dal at eich bygythiad."

"Wel, rhag poeni dim ychwaneg ar eich meddwl tyner, Gwen, efallai fod yn well i mi eich hysbysu ddarfod i mi gael llythyr heddyw'r bore, oddi wrth eich brawd, ac fod y llythyr hwnw wedi siglo tipyn ar fy mhenderfyniad blaenorol. Er fod rhai pethau ynddo ag y buasai'n llawn gwell i'r bachgen beidio'u hysgrifenu, eto, o herwydd ei fod yn mynegu ei edifeirwch, ac yn crefu am faddeuant, yr wyf yn barod i'w dderbyn eto yn ol, os gellwch gael hyd iddo."

"Yn mha le y mae?" gofynai Gwen yn awyddus iawn. "O gwmpas rhai o'r tafarnau yna, mae'n debyg."

"Af i chwilio am dano'r mynyd yma!"

Wedi i Gwen gyrhaedd gwaelod un heol, daeth cydnabod ati, yr hon a'i hysbysodd ddarfod iddi weled Llewelyn yn myned, tua haner awr yn ol, rhyngddo â'r porthladd. Ffwrdd â'r eneth tuag yno gyda chyflymder y gwynt, braidd.

Yn eistedd â'i ben rhwng ei liniau, ar bincyn o graig, yn union yn yr un llecyn ag y rhoddodd yr adyn Sion Williams ddiwedd arno 'i hun, hi a welodd Llewelyn. Rhedodd ato gyda gwaeddolef, rhywbeth rhwng arddangosiad o lawenydd a thrallod. Cododd Llewelyn ei ben, gwelodd ac adnabu ei chwaer, ac mewn dau fynyd yr oeddynt yn mreichiau eu gilydd.

"Oh, fy mrawd!" gwaeddai'r eneth.

"Oh, fy chwaer!" atebai'r llanc.

"I ba beth y deuaist ar fy ôl?" ychwanegai Llewelyn. "Paham y daethost i fy rhwystro i roddi fy mwriad mewn gweithrediad?"

"Pa fwriad?"

"Fy mwriad o beidio bod byth mwy yn ddarlun byw o ddyn anffyddlon i ddymuniadau ei fam—yn boen ac yn warthrudd i fy chwaer, ac yn ddiraddiad i mi fy hun ac i'r natur ddynol!"

"Gobeithio, Llewelyn bach, nad wyt yn meddwl gwneyd dim niwaid i ti dy hun!"

"Mae'n debyg na's gallaf wneyd yn awr, ar ol i dy ymddangosiad di ddatod llinynau rhewedig fy nghalon, a gorchymyn i gariad ail redeg nes chwyddo fy mron!"

"Oh—y mae bywyd o ddedwyddwch o dy flaen di eto, ond yn unig i ti ddychwelyd i chwilio am dano. Ond nid oes dedwyddwch gwirioneddol i'w gael mewn un ffordd heblaw trwy wneyd yr hyn sy' dda ac uniawn,—dyna'r hyn a ddywedai ein mam wrthym bob amser, onid ê?"

"Paham y soniaist am ein mam?"

"Am mai coffadwriaeth am dani hi, a phryder am danat ti, yw'r ddau beth agosaf at fy nghalon. Pa beth bynag a ddywedai hi wrthym, byddai yn ei ddweyd gyda'r disgwyliad iddo fod o les i mi. Ac os gall rhyw air o'i heiddo dy ddeffro a'th gymhell i droi oddi wrth ffyrdd truenus pechod, fy nyledswydd yw dy adgofio o hono."

"Da y dywedaist—ffyrdd truenus pechod—truenus ydynt yn wir. Nid oes ond gofid a gwarth i'w cael wrth eu dilyn. O, Gwen, pan fyddaf yn deffro yn y bore, yn sâl gorph a meddwl, wedi ymffieiddio ar fwyniant a chynhwrf y noson o'r blaen—pan fo adgofiadau am ddifyrwch anifeilaidd, meddwdod gorwyllt, crechwen ellyllaidd, a gweithredoedd annheilwng o bob peth ond diafliaid—pan fo adgofiadau am bethau o'r fath yn rhuthro fel dylifiadau am fy mhen, byddaf yn casâu fy hun, ac yn gwynfydu na fuaswn erioed heb fy ngeni. Bydd yr adgof hefyd am yr oriau difyr a dreuliasom yn y ffarm, pan oedd ein mam yn fyw, yn ysgubo drosof fel pelydrau disglaer oddi ar ogoniant nefoedd wedi ei cholli i mi! Oh, Gwen, yr wyf yn adyn truenus—wedi dechreu rhedeg i lawr goriwaered distryw, ac yn methu'n glir ag atal fy hun!"

"Gweddïa ar Dduw," meddai Gwen, gan roddi ei llaw am ei wddf, a'i gusanu.

"Yr wyf yn synu sut y medri di afael fel yna ynof, a rhoi cusan i mi," meddai'r meddwyn. "Y fath adyn a myfi!"

"Yr wyt ti'n frawd i mi, Llewelyn, a fy mrawd a fyddi di byth," oedd yr atebiad difrifol, tra y treiglai llif o ddagrau dros ei gruddiau.

"Gwae i mi ymostwng i demtasiwn y noson o'r blaen! ebe Llewelyn, gan guro 'i fynwes.

"Pa demtasiwn?—pwy fu'n offerynol i dy lusgo oddiwrthyf i feddwi?"

Rhoddodd ein harwr dalfyriad o hanes ei gyfarfyddiad â'r llances a'i denodd i ystafell gefn y Blue Bell, a'r modd y llwyddwyd i gael ganddo yfed.

"Oh, fy mrawd gwirion! y mae eu pechod hwy'n fwy na'th eiddo di; ond gwyn fyd na fuasit wedi dryllio'u rheffynau a darnio eu maglau, fel y dylasit! Er hyn, rhaid i ti beidio rhoi dy galon i lawr. Bydd i Dduw faddeu hyn eto; ac nid oes arno Ef eisiau dim ond edifeirwch a diwygiad. Boed i mi roi ein hymddiried ynddo Ef!" "Waeth heb! nid oes genyf fi f fi ymddiried ynof fy hun mi gollais hwnw." Gruddfanai'r dyn ieuanc yn drist. "Y mae fy hunan-barch—fy hunan-ymddiried—wedi colli am byth!"

Oh, na!—na!—y mae mantais ac amser i ddiwygio eto, ac i'th achub. Yr wyf yn cofio darllen am y fath beth ag achub "pentewyn o'r tân." Eri ti bechu'n erbyn Duw, a thori dy addewid i'n mam, cei faddeuant ond gofyn. Gweddïwn ein dau am edifeirwch a maddeuant cyn iddi fyn'd yn rhy hwyr; ac yna gelli adnewyddu dy addewid."

"Ni feiddiaf wneyd hyny bellach—nid oes yr un sicrwydd i'w roi y bydd i mi ei chadw. O, Gwen, gwyn fyd na fuaswn yn dy gyflwr di? Nid wyt ti'n agored i demtasiynau—nid oes maglau yn cael eu gosod ar dy lwybrau di fel ag sydd i mi, nid oes cyfeillion meddwon yn disgwyl am danat, ac ni fedd y pot a'r bibell yr un swyn i ti!"

"Pe buaswn yn yr un cyflwr a thithau, mi a gasaswn y cyfeillion a'r maglau yr un fath yn union. Y mae'r ysgrythyr yn dweyd nad ydym yn cael ein temtio uwchlaw'r hyn a allom."

"Ond Gwen," ebe Llewelyn, "nid dyma'r lle i siarad —y mae yn rhy oer i ti sefyll yn y fan yma'n hwy. Dos adref, ngeneth i, a threia fod yn gysurus yn y lle na feiddiaf fi droi fy ngwyneb ato!"

"Y fath eneth ddifeddwl ydwyf!" ebe Gwen. Paham y bu i mi dy gadw mor hir, heb dy hysbysu fod Mr. Powel mewn canlyniad i'r llythyr a ysgrifenaist ato, yn barod i anghofio pob peth, a dy dderbyn yn ol i'w dy fel cynt."

"Ha! ni chai'r hen law fy ngweled byth, oni ba'i fy mod yn teimlo y dylwn ddyfod er dy fwyn di. Ac o hyn allan, dyma fi am fod yn ddyn sobr. Gan dy fod yn dwyn y fath genadwri i mi, mi a ddeuaf gyda thi; byddwn fyw gyda'n gilydd fel o'r blaen."

"Ond, Llewelyn, y mae un lle arall ag y dymunwn i ni ein dau fyned yno yn nghyntaf—bedd ein mam. Ar hwnw y dylit ti adnewyddu dy addewid doredig! Ac y mae llawer o amser er's pan fuom yno bellach."

"Nid cymaint ag wyt ti'n feddwl fy chwaer. Neithiwr, bu'm yn gorwedd ar y bedd hwnw am oriau, gan ruddfanu yn chwerwder fy enaid, heb ddim yn y byd heblaw udiadau'r gwynt yn nghangau'r coed fel yn foddlon i roi'r un atebiad i mi yn fy nhristwch!"

"Mi fuost? Oh fy mrawd anwyl—wedi i ti gael dy droi dros yr unig ddrws ag y meddit ti fath o hawl ynddo, a fu i ti wneyd dy loches yn y llecyn cysegredig hwnw?"

"Do!"

Aeth ias oer dros Gwen, ac wylodd yn ddwys. Penliniodd y ddau ar y graig oer, a gweddïasant. Wedi codi, cymerodd Llewelyn afael yn ei llaw, ac aeth y ddau rhyngddynt a thy Mr. Powel. Go oeraidd y derbyniwyd ein harwr gan Mr. Powel; ond ymddangosai yr hen wraig foneddig yn falch iawn o'u gweled, a chusanodd hwy'n wresog.

Nodiadau

golygu