Llewelyn Parri (nofel)/Pennod XIV

Pennod XIII Llewelyn Parri (nofel)

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod XV

PENNOD XIV.

Yr oedd Walter M'c Intosh yn awr yn ymwelydd cyson â thŷ Mr. Powel.

Nid da iawn yr hoffai yr hen foneddwr ef—yr oedd yn hen ŵr call, craffus, ac ofnai ddyben yr ymwelydd. Mrs. Powel a'i derbyniai'n wastad gyda'r sirioldeb mwyaf. Llewelyn hefyd, oedd yn falch iawn o'i weled. Ond parâai Gwen i goleddu ei hen ofnad am dano.

Nid oedd Walter wedi gwneyd cais teg at ffurfio carwriaeth â Gwen. Ond dyna a oedd ei ddyben, a pha beth bynag a feddyliai ef am dano, ni adawai yr un gareg heb ei throi, tuag at gael ei fwriad i ben. Hysbysodd ef Mr. a Mrs. Powel mai ei fwriad oedd gwneyd Gwen Parri'n wraig iddo 'i hun, gyda 'u cydsyniad hwy.

Yr oedd Walter yn awr yn dair-ar-ugain oed, ond yn ymddangos ddwyflwydd, beth bynag, hynach. Ymwisgai yn y dull mwyaf chwaethus, ac actiai'r gŵr boneddig yn berffaith ddigoll.

Ni siaradai lawn cymaint ag yn ei ddyddiau boreuaf; ond siaradai yn awr lawn ddigon i osod argraff foddhaol ar bwy bynag fyddai yn ei gwmpeini. Ond yr oedd yr unrhyw edrychiad ganddo o hyd rhywbeth annesgrifiadwy tua chonglau ei lygaid, fel yn bradychu tuedd ddichellgar a chyfrwysgall. Po fwyaf yr edrychai Gwen ar ei wyneb tywyll, gyda 'i wefus aflonydd a'i lygad gochelgar, treiddgar, mwyaf oedd ei hanymddiried ynddo.

Ymddangosai Mrs. Powel yn falch iawn fod Mr. M'c Intosh yn talu'r fath sylw i'w geneth—canys nid edrychai ar Gwen ond fel ar ei geneth ei hun. Ystyriai yn anrhydedd fod y fath foneddwr yn cynyg ei hun yn ddarpar ŵr iddi; ac addawai iddi ei hun bleser mawr eu gweled yn cael eu huno mewn cwlwm priodasol.

Nid oedd Gwen eto ond deunaw oed, ac yr oedd mor ddiniwed ac angelaidd yn ei ffyrdd syml a'i hedrychiad unplyg, nes y gallesid ei hystyried, braidd, fel rhosyn gwyn ieuanc, yn tyfu ar dir cysegredig, rhy sanctaidd, a pheraroglaidd i gael ei dori a'i wisgo yn nhwll botwm yr un dyn. Ond eto, yr oedd ei mam newydd yn ymlawenhau yn fawr yn y gobaith o gael rhoi'r gorchudd priodasol gwyn ar ei phen prydferth, ar yr achlysur o'i hymuniad â Walter M'c Intosh. Pa bryd bynag y soniai Mrs. Powel rywbeth wrth Gwen yn nghylch y garwriaeth, edrychai'r eneth mor ddiniwed, a dangosai'r fath ddifaterwch ar y pwnc nes synu ei noddwraig.

Er fod Gwen fel hyn yn dymuno cadw draw oddiwrth Walter, ond yn unig fel cyfaill, eto nis gwyddai paham y coleddai'r syniadau oeraidd hyn ato. Ond y gwirionedd yw fod y pur o galon a'r diddichell o ysbryd, yn fynych, yn meddu math o ymsyniad greddfol ag sy'n gwneyd iddynt neidio'n ol rhag cofleidio gau, pa mor hardd bynag y b'o wedi ei wisgo.

Elai ymddygiadau a geiriau Walter, ac awgrymiadau Mrs. Powel a Llewelyn, yn fwy plaen y naill ddydd ar ol y llall, nes yr oedd annichonadwy i Gwen fethu gweled yr amcan mewn golwg. Gwelodd yn amlwg mai ewyllys ei noddwraig a'i brawd oedd iddi wneyd cariad o Walter. Ond cymaint ag a allai hi wneyd oedd, canu neu chwareu bob tro y ceisiai ef ganddi, ac edrych yn dyner a hawddgar arno—teimlai nas gallai byth ei garu.

Un diwrnod cafodd Walter hyd iddi ar ei phen ei hun yn y tŷ, a gwnaeth y defnydd goreu o'r cyfle i gyflwyno i'w sylw yr hyn a orweddai agosaf at ei feddwl. Eisteddodd wrth ei hochr ar y sofa, a chan gymeryd gafael yn ei llaw wen, efe a ddywedodd,—

"Miss Parri, y mae pwnc pwysig wedi bod yn pwyso ar fy meddwl er's blynyddoedd, o achos pa un yr wyf yn methu cael tawelwch na dydd na nos—a chwi yw yr unig un all roddi tawelwch i fy meddwl. Ymdrechais lawer gwaith i gael genych ganfod a theimlo fel yr wyf yn eich caru, ond erioed ni welsoch chwi yn dda ddangos yr un gradd o gydymdeimlad â mi. A ydych chwi'n cofio'r addewid a wnaethoch i mi, pan ddaethum, yn fachgen gyda 'ch brawd i dreulio gwyliau'r Nadolig i'ch cartref chwi?"

"Begio 'ch pardwn, Mr. M'c Intosh—nid wyf yn cofio i mi wneyd addewid yn y byd."

"Ai ni roddasoch eich llaw i mi mewn cydsyniad â chais Llewelyn, am beidio edrych hefo'r llygaid tlysion yna ar neb heblaw fi?"

"Os wyf yn cofio'n iawn, mi a ddywedais y pryd hwnw nad oeddwn yn rhoi fy llaw fel arwydd o gydsyniad; ond y byddai i mi ystyried y mater."

"Wel, gobeithio eich bod, ar ol cael cynnifer o flynyddoedd i ystyried y pwnc, wedi dyfod i benderfyniad ffafriol i mi, a'ch bod yn foddlon i dderbyn fy llaw, fy nghalon, a fy eiddo."

"Y gwirionedd am dani yw hyn, sef fy mod eto heb ddyfod i weled yr anghenrheidrwydd am i mi roddi fy hun i un dyn byw, heblaw cadw fy hun yn ffyddlon i fy mrawd."

"Oh, Gwen!" meddai Walter, gan edrych yn ei gwyneb gyda'r difrifoldeb mwyaf, " y mae fy mywyd hyd yn hyn wedi bod yn un go ddedwydd, o herwydd ei fod yn cael ei felysu â'r gobaith o'ch cael chwi yn wraig i mi mewn adeg ddyfodol. Ond os wyf yn awr i ddeall fod y gobaith hwnw wedi ei adeiladu ar sylfaen gau, fe fydd fy oes rhagllaw yn un cyfnod o annedwyddwch diswyn! Gwen—fy anwyl Wen—gwnewch addaw cadw eich hun yn bur i mi, a bod, cyn pen ychydig amser eto, yn brïod fy mynwes!"

"Y mae tegwch ac uniondeb yn fy ngorfodi i ddweyd yn blaen nas gallaf addaw hyny, syr. Yr wyf yn teimlo fy hun yn rhy ieuanc i wneyd addewid o'r fath—nid wyf ond geneth eto; a phe buaswn yn hŷn, y mae arnaf ofn na—na————"

"Fedrech chwi ddim rhoddi eich hunan i mi? Ai dyna'r hyn a ddymunech chwi ei ddweyd? Ond peidiwch a dweyd hyny, ac felly rhoi dyrnod marwol i obeithion melusaf fy mywyd boreuol. A fedrwch chwi fod mor greulon a thori'r galon sydd wedi bod yn curo am flynyddoedd mewn teimladau cynhes atoch chwi? A fedrwch chwi daflu bustl chwerwder i'r enaid na ŵyr beth yw mynyd o ddedwyddwch ond mewn breuddwydio am yr adeg y byddai i Walter a'i Wen gael eu huno yn nghyd? Pe buaswn yn ddyeithr hollol i chwi, nis gallaswn ddysgwyl dim yn amgen ar eich llaw; ond wedi i ni fod yn gydnabyddus â'n gilydd am gyhyd o amser—wedi i ni gael manteision i brofi tymherau'r naill y llall, chwaeth a thueddiadau ein gilydd hefyd a chael eu bod yn perffaith gydweddu—yr wyf yn hyderu nas gallwch wrthod addaw bod yn wraig i mi—eich ffyddlon Walter!"

"Nis gallaf fod yn wraig i chwi, Walter, a hyny o herwydd y rheswm plaen nad ydwyf—nas gallaf—eich caru. Heblaw hyny, yr ydym ein dau yn ddigon ieuanc gellwch chwi gyfarfod â chyflawnder o foneddigesau hawddgarach na mi, y rhai a fyddant yn alluog i'ch gwneyd yn ddedwyddach nag y gallwn i byth—boneddigesau yn meddu mwy o brydferthwch a chyfoeth,"

"Cyfoeth! Ai tybied yr ydych fy mod yn edrych am hwnw? Diolch i Ragluniaeth, y mae genyf ddigon o hwnw fy hunan.'ni' ddywedais hyny i chwi hyd yn hyn, rhag ofn y buasech yn camgymeryd fy amcan, trwy feddwl fy mod yn ceisio eich rhwydo â rhwyd aur. Ond waeth i mi ddweyd yn awr na pheidio y mae fy ewythr wedi marw, ac wedi gadael ei holl gyfoeth i mi. Ond beth fyddai aur nac arian y byd i mi heb fy Ngwen? Pentwr o faw!"

"Wel, Walter M'c Intosh," ychwanegai'r eneth, "yr wyf yn dra diolchgar i chwi am goleddu'r fath opiniwn da am danaf fi, er nad wyf yn ei haeddu. Ond rhaid i mi siarad fy meddwl yn blaen, i rwystro pob camddealltwriaeth mewn amser i ddod—fedraf fi byth moch caru'n fwy nag fel cyfaill. Bydd yn dda genyf bob amser gael eich cwmpeini, a bydd yn dda gan Llewelyn hefyd ar delerau cyfeillgarol—dim pellach."

"Cyfaill! meddai Walter" gwyddoch o'r goreu na's gallaf foddloni i wisgo titl mor glaear—rhaid i mi fod yn fwy neu'n llai na chyfaill! Rhaid i mi gael edrych ar Gwen fel fy Ngwen, neu ni chaiff y byd mo fy mhresenoldeb i!"

Ar hyn daeth Mr. Powel i fewn, a rhoddodd ataliad ar yr ymddiddan. Ond gallodd Walter sibrwd yn nghlust Gwen,

"Cofiwch nad wyf yn meddwl rhoi'r goreu i chwi ar hyn o dreial."

Arosodd Walter i dê'r diwrnod hwnw. Wedi gorphen y pryd bwyd, gofynodd Walter i Lewelyn ddyfod i'w ddanfon ef ychydig o'r ffordd rhyngddo a'i gartref. Derbyniodd ein harwr y cynygiad gyda pharodrwydd, o herwydd gwyddai fod Walter wedi rhoi prawf ar gariad Gwen, a theimlai awydd gwybod y canlyniad.

"Wel, Llewelyn," meddai Walter, wrth iddynt fyned trwy lôn gul, yn cael ei hymylu ar bob ochr â choed cysgodol—" y mae'n ymddangos fod holl freuddwydion melus fy ieuenctid i gael ei siomi, canys y mae Gwen yn gwrthod gwneyd dim â mi; mewn gair, dywedodd yn blaen na fydd iddi byth fy ngharu."

"Mae'n ddrwg genyf glywed hyny; ond rhaid i chwi beidio ystyried y pwnc fel wedi ei benderfynu, cyn i mi roddi fy holl ddylanwad o'ch plaid. Byddai'n o anhawdd genyf gredu y bydd i Gwen wrthod unrhyw beth a geisiaf fi ganddi."

"Ië; ond nid yw hynyna'n un prawf y bydd iddi hi fy ngharu fi;—dichon y gellwch chwi ei pherswadio i dderbyn fy nghynygion er eich mwyn eich hun; ond pa fodd y gellir cael ganddi fy ystyried yn deilwng o'i llaw er fy mwyn i?"

"Wel, y mae'r cwbl i ddibynu ar fy ymdrechion—fy ymddygiadau, a fy ngeiriau i. Os methaf a chael ganddi edrych arnoch â phâr o lygaid mor garuaidd ag yr edrychodd yr un ferch erioed ar ei chariadlanc, mi a fforffetiaf bob hawl i'ch ymddiried rhagllaw. Yn y cyfamser, ymddygwch ati yn y dull mwyaf defosiynol ac ymroddgar ag y gellwch."

"O'r goreu; mi a ymddibynaf arnoch chwi, ac ar ewyllys da yr hen dduwies—Ffawd."

Nodiadau

golygu