Melys cofio y cyfamod

Mi edrychaf ar i fyny Melys cofio y cyfamod

gan Ann Griffiths

Rwy'n teimlo f'enaid 'n awr yn caru

384[1] Dyfnderoedd Iechydwriaeth.
87. 87. D.

1 MELYS cofio y cyfamod
Draw a wnaed gan Dri yn Un;
Tragwyddol syllu ar y Person
A gymerodd natur dyn:
Wrth gyflawni yr amodau,
Trist hyd angau'i enaid oedd:
Dyma gân y saith ugeinmil
Tu draw i'r llen â llawen floedd.


2 Fy enaid trist, wrth gofio'r taliad,
Yn llamu o lawenydd sydd;
Gweld y ddeddf yn anrhydeddus,
A'i throseddwyr mawr yn rhydd;
Rhoi Awdwr bywyd i farwolaeth,
A chladdu'r Atgyfodiad mawr;
Dwyn i mewn dragwyddol heddwch
Rhwng nef y nef a daear lawr.

3 Efe yw'r Iawn fu rhwng y lladron,
Efe ddioddefodd angau loes ;
Nerthodd freichiau'i ddïenyddwyr,
I'w hoelio yno ar y groes,
Wrth dalu dyled pechaduriaid,
Ac anrhydeddu deddf ei Dad;
Cyfiawnder, mae'n disgleirio'n danbaid
Wrth faddau'n nhrefn y cymod rhad.

4 Fy enaid, gwêl y fan gorweddodd
Pen brenhinoedd, Awdwr hedd;
Y grëadigaeth ynddo'n symud,
Yntau'n farw yn y bedd;
Cân a bywyd colledigion,
Rhyfeddod mawr angylion nef:
Gweld Duw mewn cnawd, a'i gydaddoli
Mae'r côr dan weiddi, "Iddo Ef."

Ann Griffiths

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 384, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930