O'r nef fe ddaeth llef ddistaw fain

Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod O'r nef fe ddaeth llef ddistaw fain

gan Peter Jones (Pedr Fardd)

Cofia'r cenhadon, dirion Dad

423[1] Y Llef Ddistaw Fain.
886. 886.

O'R nef fe ddaeth llef ddistaw fain,
Hyfrytaf a phereiddiaf sain,
Trwy barthau'r ddaear gron;

Ac er distawed yw y llef,
Caiff pawb ei chlywed is y nef;
Mae Duw ei Hun yn hon.

2.Llef radlawn yw, a melys iawn;
Cyhoeddiad o faddeuant llawn
I'r euog gwael ei wedd;
Gwahoddiad i'r anghenus rai
At bob cyflawnder heb ddim trai;
Hon yw efengyl hedd.

1.Mae'n meddalhau'r afrywiog fron;
Ewyllys dyn a ennill hon,
Heb orthrech, cur, na thrais;
Hon yw'r newyddion gorau 'rioed:
I Dduw a'r Oen gogoniant boed
Byth am yr hyfryd lais.

1.Aed sain efengyl cyn bo hir
I'r dwyrain a'r gorllewin dir,
Y gogledd oer, a'r de;
O! profed pawb effeithiau hon,
Y byd fo'n plygu ger ei bron,
A llwydded ym mhob lle.

Peter Jones (Pedr Fardd)

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 420 yn Llyfr Emynau Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930