Dwy Genhedlaeth Tecwyn Lloyd

gan Robin Llwyd ab Owain

Saunders Lewis
Sgwennwyd i gyfarch Tecwyn yn Eisteddfod Llangwm, 1988. Cyhoeddwyd gyntaf yn Barddas, Chwefror 1989. Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.


Gwelaist dy wlad yn gwelwi - a gwelaist
â'th galon ar hollti
mor wag oedd ei marw hi.

Ei marw fel fflam Urien - yn marw,
a'r marw'n anorffen;
mor fyw yw ein marw hen.

Wyt hen, Lywarch, wyt unig - anadliad
dy genhedlaeth seisnig
a thlawd. Wyt ddetholedig.

Dethol a digymdeithas, - difeibion
diddynion dy ddinas;
y Dre Wen, mwyach, heb dras.

Bastardiaith, nid iaith dy dad, - yw'r Gymraeg;
mae'r iaith mwy'n gyfieithiad
a'th hil yn un erthyliad.

Erthyl yw'r pen a borthi - ac erthyl
o garthion a gleddi
yn nos ein Llandderfel ni.