Trafferth mewn tafarn

gan Dafydd ap Gwilym

Deuthum i ddinas dethol,
A’m hardd wreangyn i’m hôl.
Cain hoywdraul, lle cwyn hydrum,
Cymryd, balch o febyd fum,
Llety urddedig ddigawn
Cyffredin, a gwin a gawn.


Canfod rhiain addfeindeg
Yn y ty, mau enaid teg.
Bwrw yn llwyr, liw haul dwyrain,
Fy mryd ar wyn fy myd main.
Prynu rhost, nid er bostiaw,
A gwin drud, mi a gwen draw.
Gwarwy a gâr gwyr ieuainc –
Galw ar fun, ddyn gwyl, i’r fainc.
Hustyng, bum wr hy astud,
Dioer yw hyn, deuair o hud;
Gwneuthur, ni bu segur serch,
Amod dyfod at hoywferch
Pan elai y minteioedd
I gysgu; bun aelddu oedd.


Wedi cysgu, tru tremyn,
O bawb eithr myfi a bun,
Profais yn hyfedr fedru
Ar wely’r ferch; alar fu.
Cefais, pan soniais yna,
Gwymp dig, nid oedd gampau da;
Haws codi, drygioni drud,
Yn drwsgl nog yn dra esgud.
Trewais, ni neidiais yn iach,
Y grimog, a gwae’r omach,
Wrth ystlys, ar waith ostler,
Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.
Dyfod, bu chwedl edifar,
I fyny, Cymry a’m câr,
Trewais, drwg fydd tra awydd,
Lle y’m rhoed, heb un llam rhwydd,
Mynych dwyll amwyll ymwrdd,
Fy nhalcen wrth ben y bwrdd,
Lle’dd oedd gawg yrhawg yn rhydd
A llafar badell efydd.
Syrthio o’r bwrdd, gragwrdd drefn,
A’r ddeudrestl a’r holl ddodrefn’
Rhoi diasbad o’r badell
I’m hôl, fo’i clywid ymhell;
Gweiddi, gwr gorwag oeddwn,
O’r cawg, a’m cyfarth o’r cwn.


Yr oedd gerllaw muroedd mawr
Drisais mewn gwely drewsawr,
Yn trafferth am eu triphac –
Hicin a Siencin a Siac.
Syganai’r gwas seog enau,
Araith oedd ddig, wrth y ddau:


‘Mae Cymro, taer gyffro twyll,
Yn rhodio yma’n rhydwyll;
Lleidr yw ef, os goddefwn,
‘Mogelwch, cedwch rhag hwn.’


Codi o’r ostler niferoedd
I gyd, a chwedl dybryd oedd.
Gygus oeddynt i’m gogylch
Yn chwilio i’m ceisio i’m cylch;
A minnau, hagr wyniau hyll,
Yn tewi yn y tywyll.
Gweddiais, nid gwedd eofn,
Dan gêl, megis dyn ag ofn;
Ac o nerth gweddi gerth gu,
Ac o ras y gwir Iesu,
Cael i minnau, cwlm anhun,
Heb sâl, fy henwal fy hun.
Dihengais i, da wng saint,
I Dduw’r archaf ffaddeuaint.