Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/12

Gwirwyd y dudalen hon

o bethau yn bosibl nad yw y byd hyd yma erioed wedi breuddwydio eu bod yn bosibl.

O dan y drefn newydd fe dderfydd tlodi o'r tir. Nid oes achos fod neb yn dlawd. Mae goruchafiaeth dyn ar natur a'i allu i luosogi cyfoeth mor ehelaeth fel y mae yn gallu cynyrchu mwy na digon i ddiwallu pob anghen. Gyda y tlodion fe dderfydd y troseddwyr i raddau pell o leiaf. Troseddau yn erbyn eiddo ydynt y mwyafrif o'r rhai a gyflawnir. Tlodi ar y naill law a thrythyllwch segurwyr goludog ar y llaw arall, ydyw yr achos fod cynifer o ferched ein gwlad yn gwerthu eu hunain, i gael modd i fyw. Fe dderfydd y ffieidd-dra yna o dan y drefn newydd.

Bydd oriau llafur yn llai ac oriau hamddenol pob un yn fwy. Ychydig oriau yn y dydd fyddant yn ddigon i gynyrchu pob peth fydd yn angenrheidiol, pan orfodir pawb i wneud eu rhan o'r gwaith angenrheidiol i'w wneud. Fydd dim lle i segurwyr yn y drefn newydd, oblegid bydd raid i bob un wneud rhyw wasanaeth defnyddiol yn gydnabyddiaeth am ei gynaliaeth. Gwneir ffordd a'r ofnau, yr amheuon ar pryder am y dyfodol ag sydd yn chwerwi bywyd yn y presenol. Bydd pob un yn gwybod, beth bynag a ddigwydd iddynt hwy, y gofelir am y wraig a'r plant. Fe fydd cymdeithas yn dad ac yn fam i ofalu am yr anddifad, nes byddant yn alluog i ofalu am danynt eu hunain. Bydd pawb ar dir cyfartal o ran manteision a chyfleusderau i enill bywoliaeth. Fydd raid i neb grefu ai gap yn ei law ar ei gyd-ddyn, am ddiwrnod o waith i'w gadw yn fyw. Bydd eu perthynas a'u gilydd yn wahanol. Nid morwyn a mistress, a gwas a meistr fyddant y pryd hyny, ond brodyr a chwiorydd o'r un frawdoliaeth-aelodau o'r un gymdeithas. Pryd hyny fydd ddim yn bosibl i'r naill ddyn brynu a gwerthu ei gyd-ddyn i wneud elw o hono, fel y gwneir yn awr. Os yw dyn heb ddim ond ei lafur i'w werthu neu ei gyfnewid, ac yn gorfod ei werthu i