Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/14

Gwirwyd y dudalen hon

ffordd i'w wneud yn fyd o lawnder a dedwyddwch i bawb-mewn gair, i wneud yr holl ddaear yn nefoedd bresenol i'r holl drigolion.

Ond cyn y ceir hyny, rhaid cael goleuni addysg, i dywynu ar lygaid y bobl, fel y gwelont ac y teimlont eu sefyllfa, nes eu gyru i chwilio am drefn well. Mae trefn well yn eu hymyl ac yn gyraeddadwy iddynt, er nad ydynt yn ei gweled hyd yn hyn. Maent wedi byw mewn caethiwed mor hir nes y maent, lawer o honynt o leiaf, yn barod i ymladd dros y drefn sydd yn eu llethu, bron i farwolaeth. Nid oes un rheswm arall dros fod gweithwyr yn edrych yn elyniaethus ar Sosialism, yr hwn air o'i gyfiethu ydyw cymdeithasiaeth. Prin y gellir rhyfeddu fod y lluaws yn derbyn cenadwri cymdeithasiaeth mor oer a digyffro, pan gofir eu bod wedi cael eu dysgu o'r cryd i fynu, i fod yn foddlawn ar bethau fel y maent. Ond y mae dipyn yn syn fod Cristonogion, yn y cyffredin, yn wrthwynebol i Sosialism, pan gofir fod llawer iawn o hono yn y bibl. "Gwerth yr hyn oll sydd genyt a dyro i'r tlodion." "Y mae yn haws i gamel fyned drwy grai y nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw." "Ar rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man, a phob peth ganddynt yn gyffredin; a hwy a werthasant eu meddianu a'u da, ac a'u rhanasant i bawb, fel yr oedd eisiau ar neb." "Y neb na weithio na fwytaed chwaith." "A'r goludog hefyd a fu farw ac a gladdwyd, ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau." "Gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch." Gellid ychwanegu llawer at y rhai yna o'r hen destament a'r newydd, ond fe wasanaetha y rhai yna y tro fel engreifftiau. Yn sicr, dylai pobl sydd yn proffesu crediniaeth yn y bibl fel llyfr dwyfol, roddi mwy a gwell sylw i'r egwyddorion a ddysgir gan gymdeithaswyr nac a roddant yn bresenol.

Ond gydag addysg mae yn rhaid cael undeb o holl weithwyr y wlad i ddwyn y cyfnewidiad oddiamgylch.