Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/17

Gwirwyd y dudalen hon

R. J. DERFEL, Manceinion.

GAN IWAN JENKYN, F.R.H.S., BETHESDA.

Allan o'r Celt am Chwefror 24. 1888.

Ugain mlynedd yn ol, nid oedd neb yn fwy adnabyddus yn y byd Cymreig na gwrthddrych ein hysgrif. Ei drigfod yn nghanol berw Manchester, yn nghyd ac amryfal alwadau ei fasnach, ac nid y rhithyn lleiaf o leihad yn ei wladgarwch, ydynt yr unig resymau dros ei ymneillduad o'n plith. Ond fel y cawn weled yn ol llaw hwyrach ddarfod i oerfelgarwch Cymry Manceinion tuag ato effeithio ar ei deimladau—ond nid amharodd, ac nis gallai anmharu dim ar ei wladgarwch trwyadl. Yn y newyddiaduron Cymreig, gwelir, nid yn anfynych, gynyrchion ei awen. Yr engraifft ddiweddaraf oedd ei englynion coffadwriaethol i'w hen