marsiandwyr o Gymry. Mewn amser, fel cydnabyddiaeth o'i ymroddiad difefl i'w waith, dyrchafwyd ef i'r swydd o werthwr. A chyn bo hir iawn ar ol hyn, penodwyd ef yn Deithydd drostynt, yn yr hon swydd y gwasanaethodd y Meistri Roberts am ryw ddeuddeng mlynedd. Yn y flwyddyn 1866, rhoddodd ei le fel teithydd masnachol i fynu Yr oedd wedi llwyr flino ar deithio, ac yn teimlo awydd cryf am fwy o amser gyda'i deulu; a rhagor o hamdden i ddarllen, efrydu. a chyfansoddi.
Yn gydmar bywyd, dewisodd un o "ferched ei wlad," boneddiges o Ruthyn. Bu iddynt deulu lluosog. Carem alw sylw arbenig ein darllenwyr at yr enwau a roddwyd i blant R. J. Derfel. Efallai fod mwy yn hyn, nag a feddylir. Dyma hwy: Caswallon, Arthur, Rhiwallon, Meirion, Ceridwen, Enid,. &c. Teimlai yn gryf fod ar y Cymry angen mwy o enwau nac oedd ganddynt. Ysgrifenodd lawer o lythyrau i'r Amserau, yn anog y beirdd ac eraill i fabwysiadu enwau newyddion er mwyn cael ychydig o amrywiaeth. Y fath iechydwriaeth enfawr fuassi cael gwared bythol ar yr enwau Iuddewig a thramorol o'n plith! Y fath gaffaeliad fuasai mabwysiadu enwau ein godidog ddewrion dadau a mamau—yn lle y David, Zechariah, Jemima Maria a Georgina Jane!
Hyn, yn benaf a barodd iddo fabwysiadu Derfel" yn enw teuluol, ao nid yn ffugenw yn unig, yn ol arfer beirdd ei wlad. Cofrestrwyd y plant yn "Derfel." Dyna yw eu cyfenw. Fel Mr. Derfel yr adnabyddir y bardd gan ei gwsmeriaid, a'i weithwyr. A digrifol ydyw gwrando ar rai tramoriaid yn ceisio ynganu y guir! Byddai yn eithaf peth i lawer eraill o Gymry efelychu B. J. Derfel yn hyn o beth. Cyhoeddwr, argraffydd, llyfrwerthydd, ydyw R. J. Derfel, ac ymwel ei deithwyr a phob parth o'r wlad. Gyda llaw ai diangenrhaid deongli R. J. Derfel: ei ystyr ydyw Robert Jones Derfel.
Dechreuodd R J. Derfel farddoni o ddifrif tua'r flwyddyn 1852. Y llyfryn cyntaf a gyhoeddodd ydoedd "Rhosyn Meirion," yr hwn a gynwysai, yn mysg darnau eraill, bryddest fuddugol ar y gwladgarwr dihafal "Kossuth." Gwedi hyny gwnaeth "Y Bardd Cristionogol" ei ymddangosiad. Dilynwyd y rhai hyn gan "Brad y llyfrau gleision," "Caneuon Min y Ffordd," "Munudau Segur," "Caneuon gwladgarol Cymru." Traethodau ac areithiau," Geiriau Moliant," "Cantawd Llys Arthur," a