"Songs for Welshmen." Dywedasom iddo ddechreu barddoni o ddifrif yn 1852—pan yn wyth ar hugain oed Yn y flwyddyn 1854 cyhoeddwyd Brad y Llyfrau Gleision." Cofus gan genedlgarwyr am yr adeg fythgofiadwy hono pryd yr anfonwyd y "Tri ysbiwyr o Saeson" i regu cenedl y Cymry! Suddodd anwireddau cableddus y "tri ysbiwyr—yn cael eu dyfal gynorthwyo gan barsoniaid yr egwlys Seisnig yn Nghymru—yn ddwfn i enaid y bardd ieuanc. O fel yr ymladdodd y gwladgar Ieuan Gwynedd hefyd oddiar ei glaf wely yn erbyn y gethern ysgymun hon! Eto i gyd, credwn i'r adroddiad celwyddog hwn roddi bodolaeth i'r prudd—chwareu mwyaf deifiol ac arddunol yn ein hiaith—"Brad y Llyfrau Gleision." Wyth ar hugain oed oedd R. J. Derfel pan gyflawnodd y gorchestwaith hwn. Ymddangosai darn bob wythnos yn yr Amserau, a gyhoeddid y pryd hwnw yn Le'rpwl, o dan olygiad yr Hybarch Wilym Hiraethog. Dienw oeddynt; a mawr ddyfalid pwy oedd yr awdwr. Ond ni wyddai neb—hyd yn oed ei gyfeillion mynwesol Creuddynfab a Cheiriog—mai efe oedd yr ysgrifenydd. Gwnaeth Derfel hyn yn benaf, er mwyn cael clywed barn ddiduedd ar y gwaith, ac nid mwynhad bychan gafodd yr awdwr pan dadogid y gwaith i oreugwyr y genedl y naill ar ol y naill!
Dyfod allan yr oedd y gwaith, a'r ystorm yn codi. Gwyr y Llan ac eraill yn bygwth cyfraith ar gyhoeddwyr yr Amsrau—rhai o'r diwedd a ddychrynwyd, ac ni argraffent linell yn ychwaneg. Parodd hyn i R. J. Derfel gyhoeddi "Brad y Llyfrau Gleision yn llyfr, a beiddio y dynionach a fuont mor barod i warthruddo Cymru. Ni bu neb yn ddigon ynfyd i roddi oyfraith ar R. J. Derfel am ei ddynoethiad diarbed o gastiau maleisddrwg yr ysbiwyr a'u cyfeillion. Mae arnaf flys dodi rhai dyfyniadau o "Frad y Llyfrau Gleision" gerbron y Celtiaid. Myner a darllener ef.
CYTHRAUL (yn anerch ei frodyr).
"Nid allwn byth gael cynllun tebyg iddo,
Gan hyny awn ar frys i'w cynorthwyo;
Cynhyrfwn yr ysbiwyr i gamchwilio,
A'n brodyr a parsoniaid i gamdystio;
A gwnawn fath ddarlun hagr o'r Dywysogaeth
Nes bydd yn angeu sicr i Anghydffurfiaeth,"