Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/25

Gwirwyd y dudalen hon

nabed fel un o'r amryfal achosion ag sydd yn cychwyn ac yn cynorthwyo cenedl o gaethiwed i ryddid. Teimla R. J. Derfel y dyddordeb dyfnaf yn y deffroad cenedlaethol. Ystyria ef yn arwydd er mawr ddaioni. Ond i wneud y symudiad yn wir fendith i'r genedi yn gyffredinol, dylid eangu llawer ar ei amcanion. Yn ei dyb ef dylid ail—drefnu cymdeithas o'r gwaelod, cyn y gellir ei gosod ar sylfeini sefydlog a pharhaus. Dylid gwneud i ffwrdd a thlodi. Y ffordd i hyny ydyw gwneud un frawdoliaeth o'r genedl—neu gyfundeb o amryw frawdoliaethau. Dyledswydd y genedl ydyw gweithredu ar yr egwyddor gynwysedig yn y geiriau a ganlyn, sef, "Pob un i bawb, a phawb i bob un!" Carai R. J. Derfel weled pawb yn trigo yn nghyd fel brodyr— fel cymmrodorion. Dymunol dros ben fuasai hyny hefyd.

Ond rhaid terfynu. Diameu fod R. J. Derfel yn un o'r gwladgarwyr yn un o'r cenedlgarwyr puraf a welodd ein cenedl ni erioed. Wrth osod ein pin o'r neilldu, eiddunwn iddo "oes faith;" boed i ddyheadau ei ysbryd Cymreig gael eu sylweddoli. Ymryddhaed Cymra oddiwrth waseidd-dra. Syrthied ei gefynau ymaith.

Flynyddoedd yn ol, ysgrifenodd y bardd feddargraff iddo ef hun, a chan ei fod yn ddarluniad cywir o hono, dodwn ef yma:—

BEDDARGRAFF R. J. DERFEL.

"Carodd ei genedl, curiodd i'w gweini;
I gyraedd ei henaid gwariodd yni;
Teimlodd yn dost a dadleuodd drosti—
Teimlodd a chanodd mewn hedd a chyni;
Ei ebwch a'i waedd a baich ei weddi
Oedd am wr yn iachawdwr i'w chodi
O lid brad, i glod a bri—a mawredd;
Iawn a gwirionedd yn goron iddi."