Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/3

Gwirwyd y dudalen hon

AILDREFNIAD CYMDEITHAS.

Pe gofyniad i mi, pa beth yw y pwysicaf, o'r holl bethau sydd yn galw ac yn hawlio sylw diwygwyr yr oes bresenol? atebwn yn ddibetrus, "AILDREFNIAD СYMDEITHAS." Dyma yn ddiddadl yw y pwnc mawr sydd yn curo wrth y drws ac yn gwrthod tewi, nes cael y sylw a hawlia. Ac fe ddeil i guro yn uwch ac yn uwch, nes bydd y rhai sydd mewn awdurdod yn gorfod gwrando a chydsynio a hawliau y bobl.

Wrth son am aildrefnu cymdeithas, y peth cyntaf i sylwi arno, ydyw y drefn sydd ar gymdeithas yn bresenol, ar achos neu achosion ag sydd yn galw am ddiwygiad. Mae yr achosion hyn mor luosog, amrywiol, a mawrion, fel nad ellir yn yr amser at ein gwasanaeth yn bresenol, ond taflu cipdrem arnynt—rhyw braidd-gyffwrdd ar penaf a mwyaf amlwg o honynt.

Am y drefn bresenol ar gymdeithas gellir dweud yn gyntaf mai trefn ddi-drefn; cynllun, di-gynllun, ydyw. Yn Caban f'ewyrth Twm, un o'r cymeriadau ydyw Topsi. Pan ofynwyd i Topsi pa bryd y ganwyd hi, atebodd: "Ni anwyd fi o gwbl, tyfu wnaethum I." Felly y gellir dweud am gymdeithas—tyfiad ydyw. Pan edrychir ar dy neu offeryn, neu beirniant, gellir gweled yn mhob un o honynt arwyddion o fwriad a dyfais. Mae yn amlwg eu bod wedi cael eu gwneud yn ol cynllun a fodolai o'u blaen. Ond nid oes un gymdeithas ar wyneb y ddaear ac y gellir dweud am dani, yn ei holl gysylltiadau, ei bod yn byw ac yn bodoli yn ol plan a dynwyd o flaen y gymdeithas ei hun. Pe teflid tynelli o geryg o ben y mynydd i lawr i'r gwastadedd, mae yn bosibl y gallai y ceryg ar ddamwain, ymffurfio yn ogof, neu ystafell, neu