Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/4

Gwirwyd y dudalen hon

yn fath o dy—gyda rhywbeth tebyg i ddrws a ffenestr yn perthyn iddo—ond trefn ddi—drefn fyddai arno, oblegid ar ddamwain y gwnaed ef. Felly yn benaf y ffurfiwyd cymdeithas. Dadblygiad ydyw. Yn y dechrau, pan oedd y bobl yn ychydig mewn nifer, a digon o le iddynt heb gyfyngu y naill ar y llall, nid oedd angen am gyfundrefn helaeth a manwl i'w rheoli, ac yr oedd pob teulu yn gyfraith iddo ei hun. Bob yn dipyn fel y mae golud yn cynyddu, mae rhyw un mewn ardal, yn taflu golwg ddeisyfgar ar olud ei gymydogion, ac yn penderfynu eu meddianu drwy fodd neu drwy drais. Mae yr un hwnw yn ddigon tebyg yn fwy cawraidd ei gorff ac yn fwy cyfrwys a dichellgar na'i gymydogion, ac felly yn cael y llaw uchaf arnynt. Wedi cael y bobl i lawr, mae yn gwneud ei hun yn benaeth. O hyn allan, nid yw y bobl ond caethion i'r penaeth. Y penaeth sydd yn rheoleiddio pob peth. Mae y tir yn perthyn iddo, a rhaid talu iddo. O'r cyfoeth a enillir trwy lafur, rhaid rhoi rhan fawr am haw! i'w ddefnyddio. O'cyfoeth a enillir trwy lafur, rhaid rhoi rhan fawr i'r penaeth. Ac os ymosodir ar y penaeth, neu os ymosoda efe ar rhywun arall, mae yn rhaid i'r bobl ymladd drosto ac aberthu eu bywyd i'w gadw ef rhag niwed. Rhywbeth yn debyg i hyn ydoedd dechreuad cymdeithas, ac nid yw y drefn a fodola yn bresenol ddim amgen na dadblygiad o honi.

Yn ail, trefn hunanol ydyw i gorff y bobl. Ei harwyddair ydyw,"Pob un drosto ei hun." Yn awr, pe buasai pawb yn gyfartal o ran maint a grym corfforol, yn gyfartal o ran gallu meddyliol ac addysg, ac yn gyfartal o ran profiad a chyfleusderau, fuasai dim cymaint i'w ddweud yn ei herbyn. Ond yma anghyfartalwch yw y rheol. Mae rhai yn gryf a llawer yn wan. Mae rhai yn iach a llawer yn afiach. Mae rhai yn ddysgedig a llawer yn annysgedig. Mae rhai yn byw yn nghanol cyfleusderau, a llawer heb un cyfleusdra yn eu cyraedd. Mewn amgylchiadau fel hyn, nid yw bywyd a'i bleserau yn ddim amgen nag ymgiprys, lle mae yr oll neu agos yr oll o'r gwobrwyon yn rhwym o fyned i'r cryf a'r