Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/5

Gwirwyd y dudalen hon

dysgedig. Pa obaith sydd i'r gwan yn erbyn y cryf? i'r anllythyrenog yn erbyn y dysgedig? i'r tlawd yn erbyn y cyfoethog? Fel rheol, dim, mewn gwirionedd, dim. Yr unig rai a ffefrir gan y drefn bresenol ydynt y cryf a'r cyfrwys, Nid yw bywyd i'r lluaws ddim amgen na brwydr o'r cryd i'r bedd-ac yn y frwydr am fera beunyddiol, mae miloedd yn cael eu gwthio i'r wał a'u mathru o dan draed i farwolaeth. Mae rhai yn llwyddo yn casglu arian werth myrddiynau, a'r bobl wirion-ffol yn eu haddoli, oblegid yr aur sydd ganddynt. Ond beth yw llwyddiant yr ychydig pan edrychir arno yn feirniadol? Nid yw ddim amgen nac aflwyddiant miloedd o gydymgeiswyr yn y frwydr am olud. Golyger for mewn ardal, werth mil o bunau o olud yn bosibl i'w enill, a bod yno fil o bersonau i gyd yn ymgeisio am gymaint ag a allant o'r golud-os llwydda un dyn i feddianu pum cant iddo ei hunan, mae yn amlwg na fydd yn aros o'r golud, ond pump cant arall i'w ranu rhwng y mil, ond un, o bersonau. Os oes un dyn yn werth myrddiynau, mae miloedd ar ei gyfer heb fod yn werth dim. Mae yr un dyn yn gyfoethog am fod y lluaws yn dlawd; ac y mae y lluaws yn dlawd am fod yr ychydig yn oludog. Pe rhoddid ei ran gyfiawn i bob un, fyddai ddim yn bosibl i rai fod yn or-oludog; a thra y bydd yn bosibl i rai feddianu myrddiynau, bydd yn anmhosibl i'r lluaws feddianu digon i ddiwallu eu beisiau cyfreithlawn.

I wyr y breintiau a'r golud, mae y drefn bresenol yn gweithio yn ogoneddus. Fe synai Syr Heliwr o Gaer— ysbail, fod neb yn gallu gweled unrhyw fai ar y drefn bresenol. Rhaid i'w denantiaid ef weithio bob un drosto ei hun a gweithio bob un i Syr Heliwr ar yr un pryd. Pwy sydd yn cadw y gwr mawr o Gaerysbail? Nid yw yn llafurio nac yn nyddu, ac eto ni wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant yn debyg iddo. Mae yn byw mewn byd da helaethwych beunydd, ac nid oes arno eisiau dim-pwy sydd yn ei gadw? Ei denantiaid a neb arall. Jigsed by Google