Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/6

Gwirwyd y dudalen hon

Mae yn byw ar ffrwyth llafur yr amaethwyr ac eraill, heb wneud un gwasanaeth iddynt hwy nac i gymdeithas am ei gynaliaeth.

Mae y gwyr mawr yn dweud fod unigoliaeth a chystadleuaeth yn beth da i'r bobl-yn drefn fuddiol i'r lluaws. Ond gwelwch mor ofalus ydynt wedi bod rhag cymwyso y drefn atynt eu hunain. Hyny o drefn sydd yn ffynu, mewn cymdeithas yn awr, mae wedi cael ei sefydlu gan y cyfoethogion, heb ymgynghori ar bobl o gwbl, ac y mae yr holl gyfreithiau ar sefydliadau wedi cael eu trefnu i gydweithio er daioni iddynt eu hunain. Maent wedi cymeryd meddiant o'r tir, heb un hawl ynddo mwy nac eraill, ac ni chaiff neb ei lafurio heb eu cenad hwy a thalu rhent iddynt am y caniatad. Drwy y ddyfais anghyfiawn yma maent wedi sicrhau gwasanaeth eu holl denantiaid i gasglu cyfoeth iddynt eu hunain. Nid ydynt wedi gadael dim i ddamwain. Mae gwaddol y teulu brenhinol wedi ei sefydlu. Mae cyflogau y swyddogion gwladol, y barnwyr, y cyfreithwyr, a'r milwyr, wedi ei sefydlu hefyd. Felly hefyd y mae bywoliaeth yr esgobion a'r offeriadon o bob gradd wedi ei sefydlu, mor bell ac y gellid sefydlu unhryw beth yn mlaen llaw. Mae llywodraethwyr pob gwlad wedi bod yn hynod o ofalus a llwyddianus i wneud eu bywoliaeth eu hunain a'u perthynasau yn sicr a sefydlog.

Yn drydydd trefn anghyfiawn ydyw. Crynswth o anghyfiawnder ydyw y drefn i gyd. Nid personau a feiir, ond y drefn. I raddau pell iawn mae pob un mewn cymdeithas yr hyn ydyw am fod amgylchiadau wedi ei wneud felly. Mewn amgylchiadau gwahanol, buasem i gyd yn wahanol i'r hyn ydym yn awr. Oblegid hyny wrth gyhoeddi fod y drefn yn grynswth o anghyfiawnder, collfarnu y drefn a wneir, ac nid personau. Mae yn anmosibl edrych ar gymdeithas mewn un ran o honi heb ganfod gamwri yn ffynu ar bob llaw. Beth all fod yn fwy anghyfiawn na gorfodi y tlawd i weithio yn fore a hwyr, o wythnos i wythnos, a blwyddyn i flwyddyn, hyd ddydd