Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/7

Gwirwyd y dudalen hon

ei farwolaeth, am gyflog rhy fychan i'w alluogi i ddiwallu yn briodol anghenrheidiau ei natur? Mae y drefn bresenol yn gwneud hyny i ganoedd o filoedd yn ein gwlad. Beth all fod yn fwy anghyfiawn na gorfodi dynion gweithgar diwyd a sobr i fyw mewn cutiau, a gamerwir yn dai, heb ddigon o fwyd, na digon o dan, na digon o ddillad, na digon o ddodrefn, na digon o ddim ag sydd yn angenrheidiol i wneud bywyd yn ddedwydd? Mae y drefn bresenol yn gwneud hyny. Beth all fod yn fwy anghyfiawn na gorfodi plant diniwed i ddioddef newyn, noethni, oerni, afiechyd, budreddi, anwybodaeth, a phob aflendid yn nghanol cyflawnder o gyfoeth? Mae y drefn bresenol yn gwneud hyny. Beth all fod yn fwy anghyfiawn na gorfodi y llafurwyr i weithio yn galed i gynyrchu cyfoeth a'i gasglu, nid iddynt eu hunain, ond i eraill, i gadw segurwyr diles mewn urddas a moethau? Mae y drefn bresenol yn gwneud hyny. Beth all fod yn fwy anghyfiawn na gorfodi y gweithiwr i weithio pum awr o bob deg am ddim i greu golud i ryw un arali? Mae y drefn bresenol yn gwneud hyny. Y neb na weithio na fwytaed chwaith. Dyna gyfiawnder. Ond dan y drefn bresenol, y segurwyr sydd yn bwyta oreu, yn gwisgo oreu, ac yn byw yn y bri ar urddas penaf, tra mae y gweithwyr yn ddigon aml yn haner newynu ynghanol digonedd. Cyhoeddwyd chwedl yn ddiweddar mewn Newyddyr Americanaidd. Wneir dim cam ar chwedl na'i hawdwr drwy gymreigio tipyn arni hi. Ryw wanwyn yn ol ehedodd bran dros fynydd Berwyn i dyffryn Edeyrrion. Wedi chwilio y dyffryn, a gweled ei fod yn hardd ac yn lie dymunol i fyw ynddo, fe benderfynodd wneud ei chartref ar lan y Dyfrdwy yn ardal Llandderfel. Ar un ochr i'r afon fe welodd drefedigaeth o frain wedi sefydlu yn barod, ac er fod yno lawer o brenau heb un nyth ar ei frigyn, fe ddewisodd bren mewn coed ar yr ochr arall i'r afon lle nad oedd un fran, wedi nythu yn flaenorol. Cyn ei bod