Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/8

Gwirwyd y dudalen hon

wedi gorphen ei nyth, fe ddaeth swyddog ati i'w gwysio o flaen brenhines y brain gerllaw y Pale. Rhoddwyd hi ar ei phrawf ar y cyhuddiad o ddwyn eiddo y brain. Pan ddadleuai nad oedd un fran erioed wedi gwneud nyth yn y pren hwnw, dwedwyd wrthi yn sarug nad oedd hyny o ddim gwahaniaeth am fod brain y Pale wedi cymeryd meddiant o'r holl ddyffryn, ac mai eu heiddo hwy a'u hilogaeth ydoedd dros byth. Dedfrydwyd y fran i farw, neu i fywyd o gaethiwed drwy wasanaethu brain y Pale a gwneud nythod i'w plant a thalu rhent am gael byw yn y nyth oedd hi wedi wneud ei hunan ar yr ochr arall i'r afon. Erbyn hyn yr oedd ar y fran eisiau bwyd; ac fe welodd amaethwr yn aredig mewn cae ger llaw Tanyffordd, a ffwrdd a hi yno i gasglu y pryfaid i ddiwallu ei newyn. Ond mewn munud o amser yr oedd yno ganoedd o frain y Pale a'i hamgylch hi, a phrotwyd hi eilwaith yn lladrones am ei bod hi wedi bwyta rhai o'r pryfaid; oblegid yn ol cyfraith y drefedigaeth, yr oedd holl bryfaid y dyffryn yn eiddo personol i frain y Pale hyd byth. Dedfrydwyd hi i farw; ond cymerodd y frenhines drugaredd arni, a gosododd hi i gasglu pryfaid a'u cario i'r Pale, a'i hunig dal ydoedd yr hyn a welai brain y Pale yn dda i'w roddi iddi. Y fran ddamegol yna ydyw y gweithiwr, y tlawd. Nid all y tlawd prin symud led ei droed, nad oes rhywun yn ei wysio am drespasu. Nid all wneud dim tuag at enill ei fara beunyddiol heb genad gan rywun arall. Mae pob peth o'i amgylch yn eiddo personol i rywun, ac nid all gael dim heb werthu ei ryddid, a cholli frwyth ei lafur er ei feddianu. Mae y tlawd yn byw ar ganiatad ac ewyllys da dynion marwol fel ei hunan. Beth mae chwarelwyr Arfon a Meirion yn ei wneud? Y rhan fwyaf o'u hamser maent yn cynyrchu golud, ac fel byddin fawr o gaethweision, yr hyn ydynt yn wirioneddol, maent yn cario y golud i'w meistriaid, ac yn bloeddio hwre pan dderbyniant ran fechan o hono yn ol