Ac ebai ef wrth P. ryw ddydd
"Mi garwn gael y wlad yn rhydd
O rai mor ffraellyd ac mor groes;"
A'r ateb hwn y porthor roes:
"Fy Arglwydd da, mor hawdd i'w wneyd
Yw hyny ag yw'n hawdd ei ddweyd."
Ac aeth Sant Pedar felly i mas
O'r wynfa glaer i'r byd di ras,
A chlyw'd e'n bloeddio (gyfrwys freg)
"Caws wedi bobi!" nerth ei geg,
A'r Cymry'n clywed aent ar frys
At floedd apeliai at eu blys
A neidiodd P. yn od o dlws
I fewn i'r nef gan gloi y drws!
XV.
Cymerer y Gwyddelod (Celtiaid) mewn ymdrech a'r gorthrwm Normanaidd, ac ar ol saith canrif o ddyfal wrthwynebiad yn cyraedd buddugoliaeth. Cymerer y Cymry wedi canrifoedd o ymgiprys a'r un gallu tirgarol a gorthrwmgarol yn cadw eu hiaith a'u hunaniaeth mor ddilwgr! Nid yw Lloegr namyn goruwchadeiladaeth Deutonaidd weledig ar seiliau Cymreig anweledig, fel y dywed Matthew Arnold; neu i ddefnyddio cyffelybiaeth arall, talp o does Teutonaidd gyda'r lefain neu y burym Celtaidd yn gweithio drwyddo yn raddol i'w droi i ddybenion hollol Geltaidd cyn y diwedd. Wedi i'r Sais dderbyn y gwaed a'r ysbrydoliaeth Gelt-