Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

erent nemawr ddim dyddordeb yn y gwyddorau, y celfau a'r crefftydd. Am genedlaethau buont fel pobl yn oedi yn nychlyd ar lan Iorddonen crefydd bruddglwyfus.

XX.

Y mae hyn yn nodweddiadol o genedloedd rhamantus eithafol. Eu tuedd yw myned yn ddifater Ο ddyledswyddau cymdeithasol a gwladyddol gwareiddiad. Dyma nodwedda y Cymry a'r Gwyddelod ar hyd yr oesau. Y mae yr enaid fyddo rhamant wedi ei wenwyno yn analluog i wynebu gwirionedd. Cenfydd wyrthiau a dirgeledigaethau yn mhob man, ond ni wel werth bywyd ymarferol. Fel y dywed Noyalis, gwell gan y rhamantwr y nos gyda'i lloerwen yn hytrach na'r dydd gyda'i heulwen. Y mae mwy o feirdd wedi canu am y lloer nag am yr haul. Rhyw lewyrchyn bach fel y gloyn oedd "goleu mwyn" y Cardinal Newman. Yr oedd yn gas ganddo yntau heulwen gwareiddiad. Yr ydym ni fel cenedl wedi bod yn hiraethus am ryw fawredd yn y gorphenol, ac fel y dywed ysgrifenydd Germanaidd am y rhamantwyr eithafol "ymborthasom ar ddychymyg, a difaodd hwnw ni yn dal am hyny."