Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwlad yn erbyn y Saeson, nid yn mhlaid eu lles a'u gwareiddiad. Hyd yn ddiweddar y mae mawrion a gwerin Cymru wedi bod yn ddiystyr iawn o gyflwr gwareiddiol eu gwlad. Yr oedd ei chyflwr politicaidd yn isel, a'i chyfleusderau addysg yn ddirmygedig.

XXXI.

Gweddi pob cenedl yw ei hawyddfryd parhaus, ac ymddengys mai gweddi y Cymry fu byw yn ddidoledig oddiwrth gymdeithas cenedloedd eraill. Ychydig o gydnabyddiaeth fu rhyngddi a chenedloedd gwar eraill hyd yn ddiweddar. Cauodd y drws yn eu herbyn, tynodd y lleni i lawr ar ei ffenestri, ac ymfoddlonai ar fyw ar ei phen ei hun, fel yr aeth i goelio mai hi oedd cenedl benaf y ddaear! Galwai ei hun yn wlad y breintiau mawr, a choelia llawer o'i phlant heddyw pe y collid y Gymraeg, yr ai pregethu, gweddio a chrefydd i ddifodiant! Aeth yn falch a hunanddigonol. Aeth i ymffrostio yn anghymedrol yn ei haniad a'i bonedd daearol. Fel y dywed Theophilus Eyans "Dyma i chwi waedoliaeth ac ach yr hen Gymry, cewch ar a all un bonedd daearol fyth bosibl i gyraedd ato; pe bai ni eu hepil yn well o hyny." Nid ydym ond gwaeth o hono, oblegid nid yw ein hetifeddiaeth yn gyfatebol i'n hymffrost. Nid