meddyliau hyny, o ba rai, drwy eu llygru, y gwnawd i fyny goel-grefyddau y byd, a hyny yn eu symlrwydd gwreiddiol, fel ag oeddynt cyn eu llygru." Yn ol Myfyr, "O tan Orsedd Barddas y tarddodd allan y ddiod grefyddol, sef y dwfr bywiol grisial gwreiddiol, yr hyn a hepleswyd wedi hyny, ac a drowyd yn drwythion meddwol i bendroni gwahanol drigolion." O ffynon Barddas, felly, cafodd holl genedloedd y ddaear eu gwybodaeth o amser a thragwyddoldeb.
Gwyddorion yr Orsedd oruchel o hyd
Yw'r "gwir" yn ei burdeb "yn erbyn y byd."
IV.
Felly dyma ymffrost dysgeidiaeth Barddas, sef mai y Cymro yw Alpha ac Omega, y cyntaf a'r diweddaf o feibion dynion. Ganwyd ef o'r dechreu, ac y mae y diwedd yn etifeddiaeth iddo. Nid rhyfedd i awdwr dawnus "Drych y Prif Oesoedd" yngan mai "gwaith salw a chwith yw adrodd helynt y Cymry." Yr ysbryd balch hwn a'u gwnaeth ac a'u gwna felly.
V
.
Nid oes awdwr estronol na chenfydd yr ymhoniad hwn. Blinodd awduron estronol a blinant y Cymry eto drwy eu cyfeiriadau gwawdus at darddiad y genedl. Un hen awdwr Seisnig a adroddai i'r Cymry cyntaf ddyfod allan o'r