Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/13

Gwirwyd y dudalen hon

swydd Drefaldwyn. Mae yntau wedi astudio rheolau Simwnt Vychan, ac yn gallu cyfansoddi yn rhwydd yn ol eu deddfwriaeth. Ganwyd fi, trydydd plentyn fy rhieni, yn y Ty Coch, Penantlliw Bach, Llanuwchllyn, ar yr unfed dydd ar ddeg o Awst 1809, ac yno y magwyd fi nes oeddwn yn agos i saith mlwydd oed. Dysgais ddarllen yn bur ieuanc. Nid wyf yn cofio fy hunan yn dysgu darllen o gwbl. Rhaid fod rhywrai wedi cymeryd trafferth i'm dysgu yn gynnar iawn, oblegid yn medru darllen yr wyf yn cofio fy hun gyntaf. Darllennais y Beibl unwaith drosto i gyd, yr Hen Destament a'r Newydd, cyn fy mod yn wyth oed: ac yr oeddwn wedi dysgu llawer o benodau a Salmau ar dafod-leferydd, fel y dywedir, yn y cyfnod plentynaidd a nodwyd. Yr oeddym ni yn byw yn y ty agosaf i'r mynydd, ac felly yr oedd ein chwareuon plentynaidd yn gyffredin yn dal perthynas â phethau pob dydd amaethwyr a bugeiliaid. Daeth yr efengyl yn ei phurdeb, drwy offerynoliaeth y Parch. Lewis Rees o Lanbrynmair, yn bennaf, i ardal Llanuwchllyn oddeutu 1740, ac adeiladwyd capel yr Ymneillduwyr yno yn y flwyddyn 1746. Bu llawer o weinidogion goleuedig a thalentog yn llafurio yn y lle. Y diweddar Dr. George Lewis oedd yn gweinidogaethu yno pan anwyd fi, ac efe a'm bedyddiodd; a bu yn hyfryd gennyf feddwl lawer gwaith fod dyn mor dda a'r gŵr hwnnw wedi bod yn gweddio drosof fi yn bersonol unwaith, o leiaf, ar ddechreu fy nhaith drwy y byd. Yr wyf yn ei gofio yn pregethu am un Sabbath yn yr Hen Gapel; ond yn anffodus i mi, myfi oedd i fod y Sabbath hwnnw yn cadw caeau y lle yr oeddym yn treulio yr haf ynddo, ac nid oedd neb a wnai hynny yn fy lle; felly, bu raid i mi fod gartref, a thrwy