Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/19

Gwirwyd y dudalen hon

i wneud ond ymrannu yn wahanol ddosbarthiadau, cerdded ymlaen, a gwaeddi, cydwaeddi, i edrych a barai eu cydlef i'r fechan glywed eu lleferydd. Wedi i'r dosbarth yr oedd fy mam gydag ef gydwaeddi llawer, gwaeddodd fy mam ei hunan ei goreu, a dyna yr eneth fechan yn ateb llais ei mam. Rhuthrodd pawb ymlaen, a chyn hir dacw y ferch golledig ym mreichiau ei mam, er mawr lawenydd y ddwy. Crwydrasai Margaret, a gwaeddasai, ac wylasai nes pallu o'i nerth, a daliwyd hi gan y nos. Yna, mewn bryncyn teg, aeth dan ryw garreg gysgodol, gorweddodd, a chysgodd yn dawel. Ymdyrrodd defaid y lle yno ati, ac yr oedd yn hollol gynnes yn eu mysg. Oddeutu tri o'r gloch y bore, os wyf yn cofio yn gywir, y cafwyd hi. Noswaith sobr oedd honno i fy nain, fy mrawd Evan, a minnau, gartref, ond yr oeddwn i ar y pryd yn rhy fychan i amgyffred y trychineb, ond i raddau bychain. Ond diweddodd y cyfan mewn llawenydd teuluaidd, a chymydogaethol hefyd. Ychydig iawn wyf yn gofio am y rhyfel rhwng Prydain a Ffraine, oddieithr brwydr Waterloo yn unig. Yr wyf yn cofio yr ymladdfa honno yn burion. Yr oedd enw "Boniparti," fel y gelwid ef, yn air teuluaidd yng nghymoedd mynyddig Meirion driugain mlynedd yn ol. Gwyddid ei fod wedi dianc o Elba, wedi glanio yn Ffrainc, a chymeryd gafael yn awenau llywodraeth y wlad honno, ac ofnid gan y werinos anwybodus y deuai efe drosodd i Brydain. Ymysg eraill, yr oeddym ninnau yn ofni y deuai heibio i'n ty ni, ac y lladdai ni i gyd. Bu fy mrawd Evan, yr hwn sydd yn hynach na mi, a minnau yn dyfalu pa le y diangem i ymguddio pan ddeuai i Bennantlliw Bach. Meddyliodd un o honom mai myned i ddaear llwynog oedd yng Nghraig y Llestri