Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/23

Gwirwyd y dudalen hon

dwll yn ei dalcen, a wnaethid i fwrw gwair drwyddo i'r adeilad. Dychwelasom galangauaf i Dan y Castell, lle yr oedd ein hychydig ddodrefn yn cael eu cadw drwy yr haf. Wedi dychwelyd yn ol, gwau, pabwyra, a chenna oedd fy ngorchwyl i a'r plant eraill yn y gauaf dilynol; ac weithiau aem ar daith i gardota o fangre i fangre. Bu Margaret a minnau yn cardota drwy rannau uchaf Meirion. Cysgem weithiau mewn tai, ac weithiau mewn ysguboriau, a dychrynwyd ni yn fawr unwaith mewn ysgubor lle y troisem i gysgu. Rhyw swn sisial a'n dychrynnodd ni. Rhywrai tebyg i ninnau oedd wedi troi i mewn, ond odid, am gysgod. Codasom ni, pa fodd bynnag, ac aethom allan mor ddistaw ag y gallem, ac ymaith a ni, ac ni orffwysasom nes cyrraedd ein cartref, er fod i ni filldiroedd lawer o ffordd, naw o leiaf. Bu Evan, sydd yn awr yn Meifod, a minnau mor bell ag Aberystwyth ar daith gardotawl. Yr oedd gennym Feibl bychan a llyfr hymnau i'w darllen, ac i ddysgu allan o honynt, yn ein hysgrepan. Heblaw hynny, yr oedd gennym ledr, hoelion, mynawyd, edau grydd, a morthwyl bychan, tuag at drwsio ein clocs, ac edau a nodwydd tuag at drwsio ein dillad, pan fyddent mewn angen am hynny. Nid oedd fy mrawd ar y pryd ond wedi gadael ei ddegfed flwydd, na ninnau ond wedi gadael fy wythfed flwyddyn, ac yn gyrru ar fy nawfed. Go ieuainc oeddym i fyned ymhell oddícartref. Wrth ddychwelyd o Aberystwyth tua Towyn, Meirionnydd, deallasom y costiai i ni ddwy geiniog bob un am groesi yr afon i Aberdyfi. Nid oedd gennyin ni yr un ddimai o arian; gan hynny, bu raid i ni werthu yr ychydig yd oedd gennym i gael pedair ceiniog i dalu i'r cwch. Gwerthasom y cwbl am bedair ceiniog. Cafodd rhywun fargen dda. Yr oedd yr yd yn werth hanner coron o leiaf, feddyliwn.