Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/25

Gwirwyd y dudalen hon

ynddynt. Ni ellais byth, ar fy nheithiau pregethwrol, fyned heibio y tai a'm lletyasant, heb deimlo diolchgarwch i Dduw, ac i ddynion hefyd, am y tiriondeb a dderbyniais yn nyddiau plentynrwydd a thlodi. A pha fodd y gallaswn?

Ar y 25ain o Ebrill, 1819, cefais le gyda y diweddar Evan Davies, Ty Mawr, Pennantlliw Bach, i gadw caeau Craig y Tân. Yr oedd rhyngof rai misoedd a chyrhaeddyd pen fy negfed flwydd pan aethum yno. Arosais yno yn agos i saith mlynedd, sef hyd nes yr aethum yn egwyddorwas. Yr oedd gennyf gyfle mynych i fod dan addysg fy nhad yn y blynyddoedd hynny oll, gan ei fod yn byw yn y gymydogaeth, ac yn fynych yn gweithio yn y Ty Mawr. Yr oedd teulu y Ty Mawr yn bobl wir grefyddol, ac yn aelodau gyda y Parch. Michael Jones yn yr Hen Gapel. Cefais yno lawer o fanteision crefyddol. Yr oedd addoliad teuluaidd yn cael ei gynnal yn rheolaidd yno, a llywodraeth gref, gariadlawn, yn cael ei dal i fyny yn ddiysgog dros bawb a berthynent i'r teulu. Gwraig y Ty Mawr oedd y ddynes fwyaf deallus mewn duwinyddiaeth a welais i erioed, ac nid wyf yn disgwyl cyfarfod ei chyffelyb byth mwyach. Yr oedd fel oracl ar holl bynciau crefydd. Cefais yno gyfle i ddarllen llawer o wahanol lyfrau, a chynyddais mewn gwybodaeth o bob math. Barnai y Parch. M. Jones mai dyledswydd plant yr eglwys oedd dyfod i'r cyfeillachau crefyddol i adrodd adnodau, ac i gael eu holi ynddynt. Byddwn innau yn myned, gydag eraill, a chefais lawer o fudd drwy hynny. Dysgodd fy nhad fi i ysgrifennu a rhifo, egwyddorion peroriaeth, a rheolau Barddoniaeth Gymreig, a gallwn gyfansoddi englynion lled ddifai pan oeddwn oddeutu pedair ar ddeg oed. Gwr arall a fu yn