Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/26

Gwirwyd y dudalen hon

addysgydd parod i mi yn rheolau barddoniaeth gaeth oedd Mr. John Parry, Deildref Isaf. Bardd rhagorol oedd y gwr ardderchog hwnnw, llawn o athrylith a thân awenyddol; ond bu farw o'r darfodedigaeth yng nghanol ei ddyddiau. Pan oeddwn yn hogyn cadw yn y Ty Mawr derbyniwyd fi yn aelod o Gymdeithas y Cymreigyddion yn Llanuwchllyn. Yr oedd swm bychan o arian i'w dalu gan aelodau ar eu derbyniad, ond ni feddwn i yr un geiniog; gan hynny, yn ol cynghor John Parry o'r Deildref, cyfansoddais englyn i ofyn am gael fy nerbyn yn rhad. Adroddais ef yn y cyfarfod Cymrodorol, a llwyddais i gael derbyniad heb dalu dim. Parheais yn aelod tra yr arosais yn yr ardal honno. Enillais wobr am chwe' englyn o farwnad i Evan Davies, brawd gwraig y dafarn lle y cynhelid ein cyfarfodydd. Y wobr oedd ciniaw ar ddydd Gwyl Dewi, a pheint o gwrw gydag ef. Dyna y tro cyntaf i mi brofi cwrw; ofnwn iddo fy meddwi. Bum am rai oriau yn ei yfed, ond gadewais dipyn o hono heb ei gyffwrdd, rhag ofn iddo feistroli fy ymennydd. Cefais i lawer o addysg drwy feirniadaethau R. ab Dewi a John Humphreys ar gyfansoddiadau ymgeiswyr yng nghyfarfodydd y gymdeithas. Wedi treulio chwe' blynedd a deng mis yn ddedwydd iawn yn y Ty Mawr, aethum yn egwyddorwas at Mr. Simon Jones, Lôn, Llanuwchllyn, tad y diweddar Simon Jones, Bala. Dechreuais fy egwyddorwasiaeth Mawrth 1, 1826. Dwy flynedd ac wyth mis oedd y tymor i mi ddysgu fy nghelfyddyd. Yr oedd fy meistr yn of gwlad pur dda; ond yr oedd ei fab, Thomas Jones, yn grefftwr rhagorol, ac yn fardd gwych hefyd. Cyfansoddodd ef a minnau lawer dernyn gyda ein gilydd, a dysgais lawer o gywreinion fy nghelfyddyd oddiwrtho ef.