cefais barchi a charedigrwydd mawr gan feistr y gwaith, a'm cydweithwyr hefyd. Pan yn Nhredegar, gwelais 25 o bobl yn cael en bedyddio trwy drochiad. Yr oedd Mr. Davies, y gweinidog, yn rhy wael ei iechyd i fyned i'r dwfr gyda hwy. Dyn arall oedd yn eu trochi; ond rhoddodd Mr. Davies anerchiad ar lan y dwfr. Yr oedd fy mrawd Evan gyda mi yn gwrando yr anerchiad, ac yn edrych ar y trochiad. Wrth weled y merched yn myned i'r dwfr, ac yn dyfod allan o hono, daethom ni ein dan i'r penderfyniad, nas gallasai dull felly o fedyddio ddim bod o ordeiniad y llednais Iesu o Nazareth, ac ni ddileuwyd yr argraff anffafriol i drochyddiaeth a wnaed ar fy meddwl y pryd hwnnw hyd y dydd heddyw; ac wrth chwilio yn fanwl i'r mater mewn amser diweddarach, gwelais yn eglur mai nid bedydd y crediniol yn unig, a hwnnw trwy drochiad, ydyw y bedydd Cristionogol, ond fod plant mor gymwys i fod yn ddeiliaid bedydd ag ydyw pobl mewn oedran. Er gwahaniaethu o honof felly oddiwrth yr Hybarch Philip Davies (mab Dewi Ddu, dadl fawr yr Iawn yn Seren Gomer gynt), yr oeddwn i a'm brawd yn hoff iawn o'i glywed yn pregethu. Cynilais bum' punt yn Ty'n y Cefn, a rhoddais hwynt ar log. Cychwynais i Ferthyr gyda saith swllt a chwecheiniog yn fy llogell. Cysgais mewn gwesty bob nos. Cerddais yr holl ffordd, a phrynnais fwyd ar hyd y daith, ac yr oedd genyf oddeutu tri swllt yn weddill erbyn cyrhaeddyd Tredegar. Cerddais yn ol drachefn bob cam yng nghwympiad y flwyddyn, a gweithiais y gauaf a'r gwanwyn drachefn gyda fy hen gyfeillion yn y Lôn, Llanuwchllyn, lle oedd yn gartref da i mi bob amser.
Yn Mai, 1830, aethum i Groesoswallt at Mr.