Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/31

Gwirwyd y dudalen hon

Edward Price o Garreg y Big, Llangwm gynt, a bum gydag ef hyd ddiwedd Mai. 1831, pryd yr ymadewais oblegid gwaeledd fy iechyd, ac ymwelais â glan y môr, yn Sir Gaernarfon, a chefais waith am dri mis gyda Mr. William Jones, yng Nghonwy, ac adferwyd fy iechyd yn hollol.

Yn nechreu Medi, 1830, pan oeddwn gyda Mr. Price, yng Nghroesoswallt, y daethum yn benderfynol i ymuno âg eglwys Dduw. Nid oedd yr un gynulleidfa Gymreig y pryd hwnnw yn perthyn i'r Anibynwyr yn y dref i mi ymuno â hi, ac nid oeddwn innau yn medru ond ychydig iawn o Saesonaeg. Yr unig gynulleidfa Gymreig yn y lle oedd un y Methodistiaid Calfinaidd, a chyda hwy y byddwn i yn gwrandaw yr efengyl. Anibynnwr oeddwn i o farn a theimlad; ond pa beth a wnawn dan yr amgylchiadau oedd y cwestiwn. Aethum i'r Main, Meifod, i ymgynghori â fy nhad beth oedd oreu i'w wneuthur. Yr oeddwn i yn meddwl mai gwell oedd i mi gael fy nerbyn yn aelod yno, os oedd modd, ond barnai fy nhad, gan na allwn i fod yno yn y society, y byddai fy nerbyn felly yn beth dyeithr braidd, a hollol anarferol yn y Main; a chynghorodd fi, yn hytrach nag oedi dim, rhag i'r argraffiadau ar fy meddwl wanhau, i ymuno a'r gynulleidfa Gymreig yn Nghroesoswallt fel aelod achlysurol, a phan ddysgwn yr iaith Saesonaeg, y cawn lythyr cymeradwyol ganddynt hwy i'm trosglwyddo i'r gynulleidfa Seisonig oedd dan ofal Mr. Jenkyn (Dr. Jenkyn, wedi hynny.) Dilynais ei gyngor, a derbyniwyd fi yn aelod yn y gynulleidfa Gymreig. Gwnaeth rhai beth gwrthwynebiad, oblegid y gwahaniaeth barn oedd rhyngof fi a'r Methodistiaid. Ond dywedodd Mr. Ffowc Parry nad oedd efe yn gweled un rhwystr yn y mater,