Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/101

Gwirwyd y dudalen hon

Then manie Norman knyghtes their arrowes drewe,
That enter'd into Mervyn's harte, God wote.
In dying panges he gryp'd his throte more strong,
And from their sockets started out his eyes,
And from his mouthe came out his blameless tonge;
And both in peine and anguish eftsoon dies,
As some rude rocke torne from his bed of claie,
Stretch'd onn the pleyne the brave ap Tewdore laie.

Er mor waedlyd yw'r busnes, rhaid cydnabod fod Chatterton yn medru ei grefft, a bod cynddaredd ap Tudur yn fyw tan ei law. Ceir cyfeiriadau eraill at y Cymry rhyfelgar gan Drayton yn "The Barons Wars" ac yn y "Polyolbion." Nid haws eu dofi na dofi'r anifeiliaid gwylltaf yn y wlad, meddai. Ond ymddengys eu bod yn gowrtwyr medrus ar dro hefyd. Yn ei "Heroic Epistles," ceir un epistol oddi wrth y Frenhines Catrin at Owain Tudur, ac ateb ganddo yntau iddi hithau. Wrth gynnig ei serch i Owain, y mae Catrin yn canmol tras a gwrhydri ei hynafiaid ef; dywed ei fod yn hardd a grasus, a Chymraeg a'i chytseiniaid cras yn seinio mor llyfn ag Eidaleg ar ei wefus! Rhaid maddau i'r bardd, wrth gwrs, am dybio bod yn y Gymraeg lai o lafariaid nag yn y Saesneg, heb sôn gair am rai mudion! Yn ei ateb, nid yw Owain Tudur ar ôl am weniaith nac am syniad