Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/102

Gwirwyd y dudalen hon

teilwng am ei fawredd ef ei hun. Oni phroffwyd asai Myrddin y cymysgai arwydd y Tuduriaid a'r fleur-de-lis, a'r genhinen â'r rhosyn? Yng Nghymru, canai beirdd ei achau, o Gadwaladr ac Einion, o Dewdwr a Llywelyn, fel nad rhaid iddo wneuthur esgus dros ei dras, a fu'n ymladd â Saeson, Norwyaid, Swedeniaid a Mwscofiaid, a gadwodd eu hiaith er gwaethaf popeth, ac a barhai hyd y dydd hwnnw yr unig rai o weddillion Troea.

Yn y "Polyolbion," dengys Drayton gryn wybodaeth am Gymru, am ei hanes a hyd yn oed am ddaear y wlad. Yn ei anerchiad "To my friends the Cambro-Britons" ynglŷn â'r gerdd, dywed ei fod yn caru Cymru'n fawr, ac yn ei gerdd yn rhoddi'r rhannau o Siroedd Gloucester, Worcester a Salop y sydd ar du'r gorllewin i afon Hafren "within their ancient mother, Wales; in which, if I have not done her right, the want is in my ability, not in my love." Sonia hefyd am "the learned Humphrey Floyd," a "Mr. John Williams, his Majesty's goldsmith, that true lover of his country, as of all ancient and noble things,"—yr oeddynt yn annwyl gyfeillion iddo. Byddai mynd yn fanwl drwy'r gerdd hir hon yn ormod. gwaith mewn un ysgrif. Digoned dywedyd bod yr Awen yn mynd ar daith drwy Gymru a Lloegr,