Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/104

Gwirwyd y dudalen hon

yn y niwl, megis, oedd y bardd Cymreig i'r poetau Seisnig, yn perthyn yn agos i'r "Derwydd." Gallech fod yn lled sicr na welsant un erioed, mwy nag y gwelsant "Dderwydd," neu un o'r bugeiliaid clasurol hynny y byddent eu hunain yn canu cymaint iddynt. Ped adnabuasent fardd o Gymro, synasent, ond odid, mai ffermwr cyffredin ydoedd, fel Tudur Penllyn; gof, fel Ieuan Brydydd Hir (hynaf), neu fwtler, fel Hywel ap Dafydd, heb na golwg freuddwydiol na melancoli ar ei gyfer, a heb fod ei wallt na'i farf ddim hwy nag eiddo dynion cyffredin eraill. Yn ei gerdd ar "The Institution of the Order of the Garter," dwg West feirdd a derwyddon i mewn. Dywed eu bod wedi ymwisgo

. . . in long flowing sky-colour'd robes spangled with stars, with garlands of oaken bough upon their heads, and golden harps in their hands, made like the Welch or old British harp.

Y mae'r beirdd a'r derwyddon hyn yn canu ganddo, ac yna y mae "The Genius of England" yn eu hateb, gan eu galw yn "hen ffilosoffyddion Prydain," a dywedyd eu bod fyth yn hofran o gwmpas eu hen gartrefi, yn enwedig ym Môn:

In sacred shades,
Chiefly where Breint and Meinai wash'd the oaks,
Of ancient Mona, their academies