FLYNYDDOEDD yn ôl, wrth grwydro yma ac acw i chwilio am iechyd, deuthum yn nes at Natur nag y byddwn hyd yn oed pan oeddwn hogyn yn y coed neu ar y rhos o fore hyd nos. Gwelais beth na chawswn ei weled ers blynyddoedd—haf, hydref, gaeaf a gwanwyn ar y mynydd ac yn y coedydd, ac ni chyfrifaswn mai ofer fy hoedl pe cawswn ei threulio hyd yr awr olaf heb wneuthur dim ond gwylio heulwen a chwmwl, niwl a glaw, a dyfod i adnabod mwsogl a rhedyn, blodau a choed, gwybed ac adar, a'r mân anifeiliaid gwylltion sydd eto heb eu difa o'r wlad. Ni byddai ar ddyn eisiau darllen yn ystod dyddiau eang felly. Digon fyddai sylwi a synfyfyrio. Diwrnod gwresog ym Mehefin, wedi hir sychdwr, yng nghanol unigedd ardderchog Mynydd Hiraethog. Popeth yn swrth. Distawrwydd wedi mynd yn ddistawach. Lliw copr ar y ffurfafen. Un gerwyn aruthr a'i hwyneb i waered, ac ôl myrthylio arni yma ac acw, megis ar lestri metel gyrr cyfnod celfyddyd oesau cynt. Y copr tua'r de-orllewin yn dulasu, fel clais ar groen gwritgoch. Sydyn ru dwfn yn y pellter, yna grydwst adar mynydd yn cyfodi'n ebrwydd ac yn rhedeg yn rhes o nodau meinion nes darfod mewn dim,
Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/119
Gwirwyd y dudalen hon