Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/120

Gwirwyd y dudalen hon

megis pe tarawsai rhywun ddwrn anfeidrol ar grasdannau telyn anferth ac yna redeg ei fysedd yn ysgafn a chwim ar hyd y cildannau i'r uchaf oll. Yna llwnc hir ddistawrwydd . . . A fyddai dyn yn wlyb hyd at ei groen cyn cyrraedd diddosrwydd, dyn nad gwiw iddo gael annwyd? Pa waeth? Pe daethai diwedd y byd, pa waeth . . . o chai dyn glywed peth o'i sŵn, ei gerddoriaeth ysblennydd, a gweled pe dim ond ei wreichion, cyn mynd?

Dro arall, gorwedd yn y grug. Cysgu. Breuddwydio breuddwyd cymysg. Rhyw fywyd pell yn ôl, allan ar fynydd gwyllt, rhyw ffurfiau aneglur yn y tawch. Deffro a chlywed su drist yr awel drwy frigau'r grug. Cyffroi gwaed yr hynafiaid—pwy ŵyr pa hyd y bu'n huno?—yr hynafiaid a fu'n byw ac yn marw ar leoedd felly oesau'n ôl. Pwy a boenai am na masnach na thref na llyfr ? Llwynog yn sefyll a'i ffroen i'r awyr ar y drum draw. Cudyll coch yn hofran fry yn yr awyr, yn llonyddu ar ei adanedd eiliad, yna'n disgyn i'r ddaear fel ergyd. Un ysgrech fain, diwedd tragoedia fach . . gwyddwn am un arall y dymunwn ei bod mor fer pan ddôi'r amser.

Ond rhyfedd yw effaith arferiad. Ar aelwyd ffermdy hen gyda'r hwyr, doi llyfr i'r llaw, braidd