fel petai'r llaw yn ei geisio ohoni ei hun. "Ossian" Macpherson. Cofio'r hyfrydwch a gafwyd yn hogyn wrth ei ddarllen, cyn clywed bod dim i gywilyddio o'i blegid mewn bodloni chwaeth gymharol syml, fel eiddo hogyn. Darllen, gyda pheth rhagfarn braidd yn uwchraddol, efallai, a dal ati er hynny. Rhyw feddwl mai'r cysgu yn y grug, a mwynder hanner trist Mynydd Hiraethog fu'r drwg bod un a ddysgwyd i fod yn feirniadol yn cael blas eto ar beth a'i plesiai gynt. Bid fel y bo am hynny. Yn yr awyr agored yr oedd awdur y cerddi'n byw, pa un bynnag ai Osian yn y drydedd ganrif ai Macpherson yn y ddeunawfed ydoedd, ac nid oes reswm pam na allai'r awyr agored fod yn iachus i lenyddiaeth a beirniadaeth wedi bod ormod dan do, yn gystal ag i ddyn yn yr un cyflwr.
Fel y gellir dywedyd am agos bob un o'r rhai y cyhuddir hwy o ffugio llenyddiaeth, gellir dywedyd am Macpherson y buasai'n llawn mwy o glod iddo fod wedi gwneud y cerddi na bod wedi eu trosi i'r Saesneg. O'm rhan fy hun, nid amau gennyf nad oedd gan Macpherson yn ei feddiant ryw hen gerddi, a gafodd ar lafar gwlad, fel y dywed ei hun, ac yn wir, cyhoeddwyd rhai o'r cerddi cysefin honedig ac eraill tebyg flynyddoedd yn ôl, er na roes hynny derfyn ar y ddadl. Hyd yn oed