Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/122

Gwirwyd y dudalen hon

os darfu iddo yntau eu trwsio wrth eu trosi, fe wnâi eraill yn ei gyfnod beth tebyg, ac anodd gwybod paham y dylid beio mwy arno ef nag ar y lleill. Fe wyddis bellach fod yn Iwerddon a'r Alban ddigonedd o hen gerddi ac ystraeon ar dafod leferydd hyd y dydd hwn, ac nid yn oes Macpherson ei hun y dechreuwyd eu priodoli i Osian chwaith. Ond nid wrth y tân yng nghanol fy llyfrau yr oeddwn y pryd hwnnw, yn araf ddarllen yr Wyddeleg wrth oleuni lamp, ond ar ben mynydd yng nghanol grug a rhedyn, a'r "gwynt yn fy ngwallt," a'm bwriad oedd sôn, nid am farn goleuni lamp, ond am fardd goleuni haul.

Pobl yn byw allan yw arwyr y cerddi, beth bynnag—cysgant allan y nos, er enghraifft, peth nad yw mor farbaraidd bellach ag ydoedd yn y ddeunawfed ganrif, a pheth, o ran hynny, y gallai'r dibrofiad roi cynnig arno cyn ei gondemnio. Gyda phobl felly, bydd dyn yn anghofio swyddfa neu siop, ffordd haearn a char motor, het silc a chôt laes, a moddion a dulliau tebyg at wneud arian, i rywun arall os nad iddo ef ei hun. Bydd dyn yn blino weithiau hwyrach ar ymffrost rhai o'u hareithiau, er nad cymaint o lawer ag ar ymffrost yr areithiau y bydd pobl yn gofyn i chwi bob dydd a fyddwch wedi eu darllen. Pan fo'r