Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/123

Gwirwyd y dudalen hon

penaethiaid yn herio'i gilydd i ymladd, byddant yn dra bostfawr yn aml, ond fe fyddant yn ymladd ac yn ymddwyn yn hael at y gorchfygedig. Y mae rhywbeth yn syml a dihoced yn hanes Colmar, un o benaethiaid Cuthullin, yn ofni pan oedd un tro yn ei gwch ar y môr mewn ystorm, ac yn glanio yn ei ofn, yna'n gwrido oblegid yr ofn ac yn mynd yn ei ôl a threchu "mab y gwynt." Anodd peidio â chydymdeimlo â Fingal hefyd pan ddywed wrth "ysbryd Loda," un o dduwiau Llychlyn, am aros. yn ei feysydd hyfryd ei hun ac anghofio am Fingal, yn gymaint ag na fynnai'r arwr aflonyddu arno ef. Wrth sôn am "y cyntaf o'i deulu yn Albion," dywed Duth-maruno:

His race came forth, in their years; they came forth to war, but they always fell. The wound of my fathers is mine. (Cath-Loda).

Brawddeg o'r dernyn hwn ("they came forth to war but they always fell") yw'r unig frawddeg o "Osian" yr wyf yn cofio gweled ei dyfynnu, a dyfynnir hithau y rhan amlaf yn anghywir ac heb wybod ei chysylltiadau. Dro arall, ni rydd y bardd araith yng ngenau ei arwr o gwbl, ond gadael i'w ddistawrwydd a'i weithredoedd ddangos ystâd ei feddwl. Gwelwn y gwŷr arfog yn gorwedd dan eu harfau yn y grug, a chlywn y gwynt