Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/124

Gwirwyd y dudalen hon

yn suo yn eu gwallt, ac ysbrydion y lladdedigion yn nofio ar y cymylau ac yn gwibio yng ngolau'r tân yn y gwersyll. Pan gwympo rhyfelwr, atynt hwy yr â i ddilyn eu hen gampau gynt, "hela baeddod o darth ym môn y gwynt." Nid yw eu gweithredoedd lawn mor ffyrnig â'r rhai y sydd, er enghraifft, yn y Volsunga Saga a'r hen lên ogleddig, er bod Ogar, un o ryfelwyr Osian, yn "boddi ei ddagr naw gwaith yn ystlys Dula," ac Osian yntau, ar ôl torri pen Cormac yn ei ysgwyd bum waith gerfydd y gwallt. Ymladdai Culgorm a Suran-dronlo, gwanodd y naill y llall, syrthiasant yn erbyn craig, y naill yn gafael yng ngwallt y llall. Disgynnai dŵr o'r graig ar eu tariannau, gan gymysgu â'r gwaed. Yn eu gwleddau, cofiant am henaint a llawenydd a fu. Ei gŵynion ar ôl ei ieuenctid yw rhai o'r pethau prydferthaf a dadogir ar Osian. Dywed yn un ohonynt:

Our youth is like the dream of the hunter on the hill of heath. He sleeps in the mild beams of the sun; he awakes amidst a storm; the red lightning flies around; trees shake their heads to the wind. He looks back with joy on the day of the sun and the pleasant dreams of his rest. When shall Osian's youth return? (The War of Inis-Thona.)

Mynnai pob pennaeth hefyd fod ei glod fyw ar ei ôl, yng ngherddi'r beirdd ac yng ngherrig y