Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/125

Gwirwyd y dudalen hon

bedd. Wrth alaru am ei fab Ryno, dywed Fingal y byddai yntau wedi mynd yn fuan; ni chlywid ei lais ac ni welid ôl ei draed; ond dywed y beirdd am enw Fingal; edrydd y meini amdanaf i." Yn y gerdd "Colna-Dona," ceir hanes Osian ac eraill yn mynd i godi meini er cof am un o fuddugoliaethau Fingal, ac y mae'r bardd yn cyfarch y garreg, gan ofyn iddi ddywedyd yr hanes "wrth y gweiniaid, wedi pallu hiliogaeth Selma." Oni ofynnai rhywun wrth weled y meini "Piau y bedd?" fel y gofynnid yng Nghymru gynt?

Un o'r pethau mwyaf nodedig yn y cerddi hyn yw'r fel y mae'r bardd ag ychydig frawddegau byrion cryno yn codi o flaen y meddwl lun byw o'r hyn y bo'n ei ddisgrifio. Weithiau ag un gyffelybiaeth, caiff effaith nas cai'r disgrifiad manylaf. Byddin yn cyfodi "megis y cyfyd haid o adar môr, pan fwrio'r don hwy oddi ar y traeth." Rhuthr byddin yn rhes ar res, fel "ehediad cysgodau duon yr hydref dros fryniau gwelltog." Dwy fyddin yn cyfarfod fel ystormydd yr hydref, yn cymysgu fel ffrydiau ar y gwastadedd, a'r frwydr yn ymdywallt ymlaen "fel niwl a fo'n rholio ar hyd y cwm pan lamo'r ystorm i heulwen ddistaw'r nef." Gwŷr Cuthullin ar ôl eu trechu mewn brwydr, "fel llwyn a'r fflam wedi rhuthro