pan fo distaw'r coed a dyfnhau o'r atsain yn y glyn," dyna beth a welwyd ac a glybuwyd, ac a gofir. Disgrifio gelyn yn dyfod fel tonnau— penagored yn ddiau yw hynny, ond "fel tonnau yn y niwl, pan weler eu brigau ewynnog ar brydiau dros y tawch a fo'n nofio'n isel," dyna fanyldeb. Cof gennyf wylio'r tonnau drwy dawch felly yn torri ar y creigiau ger Aberystwyth, golygfa nad anghofir. Llais y ferch a foddwyd yng ngolwg ei thad yn "darfod fel awel yr hwyr yng nghrawcwellt y creigiau"-sŵn trist hiraethus nad â'n angof gan neb a'i clybu erioed. Cwyn Vinvela, a dorrodd ei chalon ar ôl ei chariad, "fel yr awel yn hesg y llyn."
Nid yw'r cerddi heb gymariaethau tebyg i rail beirdd eraill, a chyhuddwyd Macpherson o ddwyn llawer o'r cyffelybiaethau gorau oddi ar rywrai neu gilydd. Er enghraifft:
The light of song rises in Ossian's soul. It is like the field when darkness covers the hills and the shadow grows on the plain of the sun.
Dygwyd y gyffelybiaeth hon, ebr un beirniad o linell Vergil:
Majoresque cadunt altis de montibus umbræ.
Tybed a fuasai raid i awdur cynifer o gyffelybiaethau a nod mor bersonol arnynt fenthyca