Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/130

Gwirwyd y dudalen hon

fod mor gynnar â'r adeg y dywedir fod Osian yn byw-o'r Saesneg neu'r Ffrangeg y cafwyd y gair pailliun, a diweddar yw'r ffurfiau i gyd. Nid ymddengys i mi fod y mesur yn fesur Gwyddeleg cynnar, ac awgryma'r odlau (gruaidh, suain, uaimb; taobh, aoibhneas) yn y ddau raniad olaf, bod rhywbeth ar ôl-llinellau efallai ar goll. Y tebyg yw, fel yr awgrymwyd eisoes, mai rhyw ddarnau cerddi fel hyn, a briodolai traddodiad i Osian, oedd gwreiddyn gwaith Macpherson.

Cafodd y gwaith, pa wedd bynnag, dderbyniad rhyfeddol ar y Cyfandir ac yn Lloegr hefyd, a dylanwadodd lawer ar lenyddiaeth y cyfnod, yn Lloegr, yr Almaen a Ffrainc. Yn ddiweddarach, daeth yn ffasiwn sôn amdano fel rhyw ystum, rhyw atro anweslyd at bethau a fu. Diau fod yr elfen honno ynddo hefyd. Nid dyma'r unig enghraifft yn y byd o'r atro hwnnw, ac yr oedd yn sicr yn gynarach yng Ngwyddeleg Iwerddon a'r Alban nag oes Macpherson, ac yn Gymraeg hefyd, o ran hynny, yn enwedig y gŵyn ar ôl ieuenctid. Ond un gamp a fedrodd Macpherson, o leiaf-dwyn i mewn i'r Saesneg arddull newydd ag arni fwy o bryd a gwedd nag oedd ar eiddo nemor un o'i feirniaid, a tharo ffansi'r gwledydd nes bod nid ychydig o ddynwared arno. Pan ddaeth Pan ddaeth beirniadaeth