Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/131

Gwirwyd y dudalen hon

hanesyddol, a deall na ellid derbyn y gwaith fel eiddo bardd o'r drydedd ganrif, collodd "Osian" y bri oedd iddo unwaith, ac ychydig, ond odid, fydd yn ei ddarllen bellach. Eto, mewn neilltuedd gorfod, yng nghanol rhosydd, creigiau, cymoedd a choedydd, a llwyr ddiflastod ar gyfnod sy'n llawn mor anweslyd ag un y gwn i amdano, yn ei ffordd ei hun, fe'i cefais ef yn gydymaith nid anniddorol, a ddysgodd i mi nid ychydig o bethau, gwybod, yn eu plith, nad oes beroriaeth a ddwg i ddyn gymaint o feddyliau â sŵn y gwynt ym mrigau'r grug, na bodlonrwydd mwy mewn rhai amgylchiadau na byw ambell awr fel petai dyn yn hŷn na'i hynafiaid ef ei hun.

(1906.)